Rhwydwaith Artistiaid
Gofod i bobl greadigol gysylltu, gydweithio a chefnogi ei gilydd
Nid yw'n le am gyfleoedd gwaith - mae'r rhwydwaith yn ymwneud ag adeiladu cymuned artistig gref lle gellir rhannu syniadau, profiadau ac ysbrydoliaeth. P’un a ydych chi’n actor, yn awdur, yn gyfarwyddwr neu’n ymarferwr creadigol, ymunwch â ni i gwrdd ag artistiaid o’r un anian a thyfu gyda’n gilydd.
Cofrestrwch ar gyfer y rhestr bostio yma:

Holi ac Ateb BBC Writers gydag Elise Gallagher
- Dydd Mawrth 15fed Ebrill
- 11.30am-1.30pm
- Adeilad Dewi Sant, Ystafell Ymarfer Un
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ysgrifennu ar gyfer y teledu? Mae BBC Writers yn rhan o adran Comisiynu Dramâu Teledu’r BBC ac yn gweithio i ganfod, datblygu a hyrwyddo talent ysgrifennu newydd a phrofiadol. Dewch i'r digwyddiad yma i gwrdd ag Elise Gallagher ac i glywed mwy am y cyfleoedd a'r rhaglenni datblygu awduron sy'n cael eu cynnal gan BBC Writers a sut gallwch chi gymryd rhan.
Elise Gallagher yw Cydlynydd Datblygu’r BBC ar gyfer Cymru lle mae’n cydweithio ar chwilio am dalent, cyfleoedd, cynlluniau a digwyddiadau i gefnogi’r gwaith o chwilio am dalent ysgrifennu newydd yng Nghymru. Cyn gweithio i BBC Writers bu’n gweithio ar draws BBC Audio Drama ac uned CAM BBC Audio, a oedd yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau datblygu talent a rheoli gŵyl Contains Strong Language y BBC mewn partneriaeth â City of Culture.
Fe fydd hi’n ymuno â ni am sesiwn Holi ac Ateb ar y BBC Writers Room, un o’r llwyfannau gorau ar gyfer talent ysgrifennu newydd yn y DU.

Y Broses Gastio a Thechneg Clyweliad gyda Liv Barr
- Dydd Iau 8 Mai
- 11.30am-1.30pm
- Adeilad Dewi Sant, Ystafell Ymarfer Un
Mae Olivia (Liv) Barr yn Gyfarwyddwr Castio yn y Gogledd Orllewin. Yn ddiweddar cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Castio (Ymgynghorydd) yn y Royal Exchange Theatre ac mae’n gweithio’n rheolaidd gyda theatrau cynhyrchu gogleddol eraill.
Enillodd Wobr CDG yn 2023 am y Castio Gorau mewn Theatr Ranbarthol am ei gwaith fel Cyswllt Castio i Stuart Burt CDG ar East is East (Birmingham Rep, The National Theatre, Chichester Festival Theatre). Cyn hynny bu'n gweithio yn adran gastio fewnol y BBC, yn cydlynu castio artistiaid gwadd ar gyfer EastEnders, Doctors, a Casualty.
Cyn cychwyn ar yrfa mewn castio, bu'n gweithio yn y byd cynhyrchu theatr a digwyddiadau.

Cynhyrchu Annibynnol, Teithio a Gŵyl y Fringe Caeredin gyda Jenny Pearce
- Dydd Iau 22 Mai
- 11.30am-1.30pm
- Adeilad Dewi Sant, Ystafell Ymarfer Un
Dewch i gwrdd â Jenny Pearce a neidio i fyd Cynhyrchu Annibynnol, Teithio a chynhyrchu ar gyfer Gŵyl y Fringe Caeredin. Os daethoch chi i’n sesiwn Cyflwyniad i Gynhyrchu ni nôl ym mis Chwefror, ymunwch â ni eto i weld ochr arall y byd cynhyrchu!
Mae Jenny yn Gynhyrchydd Theatr a Dawns Annibynnol sydd wedi'i lleoli yng Nghanolbarth Cymru ac yn gweithio ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae hi’n cynhyrchu Under Milk Wood ar gyfer Theatr Clwyd fel rhan o bartneriaeth Craidd. Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda’r cwmni perfformio Figs in Wigs ac mae wedi hi wedi gweithio i Clod Ensemble, Gate Theatre, Pentabus, Stage One a’r Menier Chocolate Factory.