Asesu, Adfywio, Ailagor!

Sut bydd Theatr Clwyd yn agor ei drysau.

Gan Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd

Mae ychydig dros 3 blynedd wedi mynd heibio ers i’n prosiect adeiladu mawr ni ddechrau’n llawn. Rydw i’n gallu cyfaddef nawr - roedd yn frawychus. Roedd cymaint o elfennau enfawr, anhysbys yn rhan o’r gwaith o adnewyddu adeilad o oedran Theatr Clwyd. Fe ddaethon ni ar draws asbestos annisgwyl, wynebu problemau gyda chyflenwadau byd-eang oherwydd y rhyfel yn Wcráin, a darganfod cyfrinachau adeiladu rhyfeddol y tu ôl i haenau o bapur wal a nenfydau concrit.

Er gwaetha’r heriau hyn, rydyn ni’n gweld y llinell derfyn. Mae'r adeilad yn edrych yn brydferth – yn syfrdanol hyd yn oed - ac rydyn ni ar y trywydd iawn i ailagor yn llawn yn fuan iawn.

Felly, pryd fyddwn ni'n agor?


Mae hwn wedi bod yn brosiect unigryw. Fe wnaethon ni gau fesul cam, gan alluogi i ni barhau i lwyfannu cynyrchiadau wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Ar ôl cau yn llwyr yn y diwedd, fe wnaethon ni symud i Theatr Mix a’r Babell Fawr - ein lleoliadau ni dros dro. Er bod y llefydd yma wedi cyflwyno heriau hefyd - glaw, canslo oherwydd gwynt, a dyddiau rhewllyd - fe wnaethon ni wneud y safle’n gartref, diolch i chi.

Roedd y dull fesul cam yma o weithio’n galluogi i ni weithio’n ddoethach – gan leihau’r cyfnod ar gau, cadw ein tîm ni gyda’i gilydd, cynhyrchu sioeau o safon byd, a pharhau â’n gwaith cymunedol.

A nawr, fe fyddwn ni’n ailagor fesul cam hefyd:

  • 2 Mehefin: Theatr Moondance (Anthony Hopkins gynt) a'n cynteddau ni ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf. Bydd ein gweithdy newydd ni’n weithredol hefyd – i adeiladu ein setiau ar gyfer sioeau’r hydref!
  • Canol mis Gorffennaf: Bryn Williams yn Theatr Clwyd (ein bwyty newydd). Mae ychydig o oedi wedi bod gyda'r bwyty - y tu hwnt i'n rheolaeth ni a Bryn. Fodd bynnag, o ddechrau mis Mehefin ymlaen, byddwn yn cynnig opsiynau bachu a mynd o’r llawr gwaelod – brechdanau, cacennau a choffi – tra bydd y gegin yn cael ei chwblhau, a’r profion terfynol.
  • 24 Gorffennaf: Ein cynhyrchiad agoriadol ni yn Theatr Weston (Theatr Emlyn Williams gynt) wedi’i greu gyda a chan bobl ifanc, On Wednesdays We Wear Pink. Bydd enw Emlyn yn aros yn ein hadeilad ni ac, yn briodol, dyma fydd enw ein hystafell awduron newydd.
  • Diwedd mis Gorffennaf: Ein sinema (yn gynharach o bosibl - gwyliwch y gofod yma!).
  • Dechrau mis Awst i ganol mis Medi: Popeth arall, gan gynnwys gosodiadau celf cyhoeddus, gofod digwyddiadau a dodrefn terfynol.
Cyffyrddiadau Terfynol a Mân Broblemau
Dydi’r gwaith adeiladu ddim yn gorffen yr eiliad y mae’r drysau'n agor. Dros y misoedd nesaf, fe fyddwn ni’n rhoi sylw i fân broblemau, yn rhoi dodrefn at ei gilydd a gosodiadau yn eu lle, ac yn ychwanegu teils trawiadol wedi'u gwneud â llaw a chelf gyhoeddus.


Dyddiadau Allweddol ar gyfer Eich Dyddiadur
    • 2 Mehefin: Sioe gyntaf - Tick, Tick… BOOM! yn Theatr Moondance
    • Mis Mehefin: Digwyddiadau profi (byddwn yn e-bostio’r manylion)
    • 2 Mehefin: Cynteddau’r llawr gwaelod a’r llawr cyntaf yn agor
    • 24 Gorffennaf:On Wednesdays We Wear Pink yn agor yn Theatr Weston.
    • Diwedd mis Gorffennaf: Y Sinema a’r orielau yn agor (yn gynharach o bosibl)
    • Diwedd mis Mehefin – mis Awst: Arddangosfa Agored Gogledd Cymru
    • Canol mis Awst: Playces (ein harddangosfa ryngweithiol newydd)

Rydyn ni mor agos, ac mae’r tîm cyfan yn edrych ymlaen at eich croesawu chi’n ôl i’ch Theatr Clwyd newydd!