Blog: Ailddatblygiad Theatr Clwyd

Y Fersiwn Hir (gyda lluniau)

[2,225 gair | 10 munud o ddarllen]

Gan Liam Evans-Ford | Cyfarwyddwr Gweithredol

0 Stars

Dim ond pan ydw i’n cymryd cam yn ôl ac anadl ddofn ydw i’n sylweddoli pa mor enfawr ydi’r prosiect yma, a hefyd sut bydd yn newid bywyd nifer enfawr o bobl.
Liam Evans-Ford
Credyd: Dave Jones 2023

Fe es i am dro heddiw, fel rydw i’n ei wneud bob pythefnos nawr – het galed, siaced lachar ac esgidiau blaen dur – allan drwy ddrws cefn ein cyntedd dros dro ni, drwy’r giât yn y byrddau pren sy’n amgylchynu’r safle adeiladu, ac i mewn i'r theatr, ein cartref ni yn Sir y Fflint, i weld sut mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar y prosiect cyfalaf enfawr yma.

Rydw i bob amser yn cael fy nharo gan faint yr adeilad – mae fel cawr uwch eich pen chi wrth i chi gerdded i mewn – sy’n dyst i uchelgais a gweledigaeth yr arweinwyr dinesig hynny yn y 1970au.

Rydw i'n sefyll ar y prif lwyfan – y seddi wedi'u tynnu, y carped wedi'i rwygo, y theatr yn dawel - rydw i wir yn cael fy nharo, am y tro cyntaf efallai, gan y cyflawniad enfawr o ran cyrraedd y pwynt yma.

Liam Evans-Ford

Fi sydd â’r fraint o fod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd – fi ydi hanner arall tîm arwain y sefydliad ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Artistig, Kate. Fe wnes i ymuno yn 2016 yn fuan ar ôl i Tamara (y Cyfarwyddwr Artistig blaenorol) gyrraedd.

Roedd y ddau ohonon ni’n gwybod bod angen ailddatblygu’r theatr yn sylweddol – roedd yn amlwg – roedd dŵr yn dod i mewn drwy’r to, y trydan yn prysur fethu, ac roedd hynny cyn i chi hyd yn oed gerdded o amgylch y cynteddau a’r bar oedd yn teimlo’n hen ffasiwn ac yn flinedig (gydag arogl rhyfedd o fresych wedi’u gorferwi mewn rhai ardaloedd).

Yn ystod y saith mlynedd diwethaf, rydyn ni wedi ehangu ein gwaith yn sylweddol hefyd – gan weithio llawer mwy gyda’n cymunedau ni ac ar eu cyfer, mewn ffordd na ragwelwyd yng nghynllun yr adeilad yn y 70au. Y realiti erchyll oedd, pe na bai gwaith ailddatblygu mawr yn digwydd ar yr adeilad, byddai’r holl waith anhygoel oedd yn digwydd ar y llwyfannau ac oddi arnyn nhw’n cael ei golli – ni fyddai Theatr Clwyd yn bodoli mwyach – roedd pethau mor ddifrifol â hynny.

Credyd: Dave Jones
Credyd: Dave Jones

Y ddau ofod cyntaf rydw i’n cerdded drwyddyn nhw ydi’r ddau le y bydd ein cynulleidfaoedd ni’n eu hadnabod ac yn eu hoffi fwyaf – y brif theatr (sy’n cael ei hadnabod fel Theatr Anthony Hopkins ers 1994) a’r theatr stiwdio (sy’n cael ei hadnabod fel Theatr Emlyn Williams ers diwedd y 1980au) – mae'r ddau ofod yn cael eu hadnewyddu a'u diweddaru'n llwyr, ond mae'r ddau hefyd yn cael eu gwarchod i sicrhau nad yw’r elfennau allweddol sy'n eu gwneud nhw’n lleoliadau perfformio mor wych yn cael eu colli.


Mae gan y prif dŷ linellau gweld anhygoel, mae'r acwsteg yn wych oherwydd y brics wedi'u cerfio â llaw sy'n rhan o'n statws rhestredig Gradd II, ac mae'n lleoliad rhyfeddol o agos i berfformwyr a chynulleidfaoedd rannu eu hamser ynddo.

Ond mae diffygion – y rhai gwreiddiol yw’r seddi, wedi gwisgo ac yn dueddol o gwympo – mae’r gwaith trydan a’r elfennau iechyd a diogelwch wedi hen fynd heibio eu dyddiad diogel, mae’r hygyrchedd mae’n ei gynnig yn wael, a’r elfennau technegol sy’n cefnogi cynyrchiadau o safon uchel (mae’r system hedfan a safle’r gerddorfa yn ddwy esiampl) wedi methu’n rheolaidd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.

0 Stars

Y stiwdio, a dweud y gwir, ydi fy hoff le i – mae’n gwbl hyblyg ac yma mae rhai o fy hoff atgofion
Credyd: Haworth Tompkins

Y stiwdio, a dweud y gwir, ydi fy hoff le i – mae’n gwbl hyblyg ac yma mae rhai o fy hoff atgofion i – o weld fy hoff sioe yno (Insignificance wedi’i chyfarwyddo gan ein cyfarwyddwr artistig ni, Kate Wasserberg – mae’n rhaid fy mod i wedi ei gwylio fwy na deg o weithiau yn ystod y rhediad!) ond yma hefyd y dechreuodd ein siwrnai ni i Wobrau Olivier gyda pherfformiad cyntaf syfrdanol Home, I'm Darling. Unwaith eto, dydyn ni ddim eisiau chwarae gyda phethau sy’n gweithio (ac yn gweithio'n anhygoel o dda) - mae'r gwaith trydan yn cael ei newid yn llwyr, mae'r balconïau a'r bocs technegol yn hygyrch am y tro cyntaf, mae’r galluoedd creu theatr yn cael eu gwella, a’r seddi'n cael eu hadnewyddu.

Rydyn ni wedi bod yn hynod ffodus o gael cefnogaeth Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru drwy gydol y siwrnai hon. Peth prin a gwerthfawr ydi cael awdurdod lleol sy’n gwerthfawrogi cymaint ar ddiwylliant – rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd ar y cyd, ochr yn ochr – mae ein tîm ymgysylltu creadigol ni’n gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol yn wythnosol i gynnal rhaglenni sy’n gweithio gyda rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni. Maen nhw’n cydnabod yr hyn y mae gwaith Theatr Clwyd yn ei wneud – dod â phobl i fyw, gweithio, ymweld ac aros yn Sir y Fflint; creu budd enfawr i'r economi leol; cynnig cyflogaeth i gannoedd o bobl - ond yn fwy na hynny, yn y bôn, fe all y celfyddydau wneud y byd yn lle gwell, hapusach i fyw ynddo.

I lawr i'r cynteddau ac yn sydyn mae popeth yn edrych yn ddieithr iawn - mae cynteddau'r 1970au wedi mynd, nenfydau ffug wedi'u tynnu, y toiledau cyfyng wedi diflannu, ac esgyrn yr adeilad yn y golwg am y tro cyntaf ers ei adeiladu, bellach yn atseinio ac yn wag.

Credyd: Fred Howarth
Credyd: Fred Howarth

I’r rhan fwyaf o bobl dyma lle bydd y gwahaniaeth mwyaf i’w deimlo – fe ddywedwyd wrtha’ i yn fuan ar ôl i mi ddechrau, er bod gan Theatr Clwyd dîm anhygoel sy’n gwneud cynyrchiadau o safon byd, nad oedd profiad y gynulleidfa yn cyd-fynd â safonau mor uchel. Bydd yr ailddatblygiad yn newid hynny er gwell, gyda blaen yr adeilad wedi'i ehangu'n aruthrol, bwyty newydd ar y llawr cyntaf, caffi i gwrdd â ffrindiau a theulu ar y llawr gwaelod. Does dim rhaid i chi ddod i weld sioe i fwynhau hwn - bydd yn fan ymgynnull i bawb gwrdd, ymlacio a threulio amser. Bydd y ceginau a dynnwyd yn y 1990au yn dychwelyd ac, o'r diwedd, byddwch chi'n gallu gwneud noson ohoni, o swper cyn y sioe i ddiodydd ar ôl y sioe.

Toiledau? Mae cwestiynau bob amser am doiledau. Yn wir, cyn dod yn weithredwr mewn theatr, fe ddywedwyd wrtha’ i y byddai llawer o fy amser yn cael ei dreulio ar drafodaethau ar doiledau (ddim yn hollol wir – ond mae bob amser yn bwnc llosg!)

Fe fydd toiledau yma. Cymaint o doiledau. O’r diwedd, bydd ciwiau erchyll y nosweithiau llawn (yn enwedig yn nhoiledau’r merched) yn rhywbeth o'r gorffennol. Hefyd bydd gennym ni lefydd newid (y rhai cyntaf yng Ngogledd Cymru yn ôl y sôn) o’r safon uchaf, toiledau wedi’u cynllunio at ddefnydd plant ifanc a theuluoedd, dynion, merched, a rhyw niwtral. Fe wnes i ddweud wrtha’ chi y byddai toiledau yma!!

Credyd: Fred Howarth
Credyd: Fred Howarth

Ym mhob man lle rydw i’n cerdded mae atgof – atgofion hyfryd am yr Ŵyl Gelfyddydol i Deuluoedd lle bu pobl ifanc yn paentio’r ffenestri, ond hefyd atgofion am amseroedd heriol, pan oeddwn i’n sefyll ar fy mhen fy hun mewn adeilad wedi cau oherwydd Covid. Mae’r rhwystrau a daflwyd atom ni oherwydd Covid yn rhoi hyder i mi fod llywio prosiect cyfalaf mor enfawr â hwn yn bosibl – fe ddaethon ni drwy’r pandemig oedd yn llawer mwy o her.

Wrth edrych o gwmpas ar y concrid noeth, rydw i’n cael fy atgoffa o ba mor swnllyd oedd y bar, yn fyddarol weithiau, felly – rydyn ni’n gweithio gyda pheiriannydd acwstig i leihau’r sŵn sy’n cael ei greu gan gyntedd prysur. Cadw’r awyrgylch a’r bwrlwm ond gwneud yn siŵr ei fod yn lle braf i fod ynddo hefyd.

Credyd: Fred Howarth

Mae’r gwaith stripio i’w weld fwyaf yn yr oriel, stryd fawr yr adeilad, lle mae arddangosfeydd gan rai o artistiaid gweledol gorau’r DU i bypedau Cosgrove Hall wedi bod. Yn flaenorol, roedd yn teimlo’n gyfyng bron, yn ddienaid, ac yn bendant yn oer. Nawr gyda’r nenfydau’n uwch mae’n teimlo’n odidog, gyda’r golau’n arllwys i mewn ac mae’r raddfa’n eich taro chi – mae hwn yn ofod enfawr, yn ofod enfawr ar gyfer rhannu celf, gan arddangos y gorau o’r hyn sydd gennym ni i’w gynnig, yn cysylltu ein cyntedd, y theatrau, y sinema a’r mannau cymunedol gyda’i gilydd, ac i groesawu niferoedd mawr o bobl i ben ein bryn ni yng Ngogledd Cymru.

I lawr yn ystafell Clwyd mae rhywfaint o'r gofod wedi diflannu, wedi'i ddymchwel. Bydd yn cael ei adfywio, ei fywiogi a’i adnewyddu. Pan agorodd yr adeilad yn 1976, hwn oedd calon y digwyddiadau cymunedol – priodasau, pen blwyddi, angladdau a digwyddiadau dinesig. Bydd y gegin newydd yn gwneud hwn yn ofod tebyg eto – gan ddod â phobl at ei gilydd ar gyfer eu hachlysuron pwysig (er, mae’n deg dweud, y tro yma ni fydd yn cynnwys cogydd yn rhoi sylw arbennig i fenyn – ie, menyn – oes wahanol yn wir! Gwylio ar youtube).

Credyd: Fred Howarth
Credyd: Fred Howarth

Pan wnaethon ni ddechrau ar y siwrnai yma, roedden ni’n eithriadol ffodus o sicrhau gwasanaethau Howarth Tompkins, penseiri arobryn sydd wedi ennill Gwobr Sterling. Maen nhw wedi cyflwyno rhai o brosiectau diwylliannol mwyaf y byd, lleoliadau nodedig fel y National Theatre, y Liverpool Everyman a’r Bristol Old Vic, a nawr maen nhw’n cyflawni dros Ogledd Cymru.

Credyd: Fred Howarth

I fyny'r grisiau ac rydw i dan do ac yn yr awyr agored. Yng nghragen yr hyn a oedd, flwyddyn yn ôl, yn swyddfa farchnata a datblygu brysur, ond sydd bellach yn agored i'r elfennau, a heulwen ac awyr las ydi’r unig bethau uwch fy mhen. Nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd yn ôl pob tebyg. Fe glywais i stori gan un o’n tîm ni oedd yn arfer gweithio yn y swyddfa yma. Un Nadolig, fe ddaethon nhw i mewn i ddarganfod, ar ôl storm, bod rhan fawr o’r to ar goll, a bod y gweddillion wedi’u gwasgaru dros gae cyfagos. Wrth i eira ddod i mewn, yn ansicr iawn ynghylch beth i’w wneud mewn sefyllfa o’r fath, fe aethon nhw ati i gasglu’r darnau o’r to a’u gosod nhw mewn pentwr wrth i gynulleidfaoedd y panto basio gan edrych yn chwilfrydig – y cyfan yn rhan o’r diwrnod gwaith. Mae’r stori honno’n un o blith llawer am geisio rheoli adeilad oedd yn methu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Wrth i mi sefyll yn yr awyr agored, yn yr hyn a fydd yn ystafell ymarfer newydd i ni, rydw i’n cofio’r hanfodion rydyn ni’n mynd i’w cyflawni, to uwch ein pen ac amser i ganolbwyntio ar ein cynulleidfaoedd a’n cymunedau yn hytrach na delio â darnau o nenfwd yn y cae.

Wrth gwrs, dydi prosiectau fel hyn ddim yn digwydd yn aml - prosiectau enfawr a all fod yn gatalydd ar gyfer buddsoddi ac adnewyddu. Maen nhw'n ddrud hefyd. Cyn y prosiect yma, y swm mwyaf a godwyd erioed drwy godi arian preifat ar gyfer adeilad diwylliannol yng Nghymru oedd £2.5m. Fe ddywedwyd wrthym ni mai'r gorau y gallem obeithio amdano oedd £2m. Ond Theatr Clwyd ydi hon, ac rydyn ni’n ymdrechu i gyflawni ar lefel uchel ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud, a nawr rydyn ni wedi codi mwy na £4m – y mwyaf erioed yng Nghymru, ac mae gennym ni fwy i’w wneud eto i gyrraedd y targed terfynol ar gyfer y prosiect hanfodol yma.

Credyd: Fred Howarth
Credyd: Fred Howarth

Wrth i mi fynd tuag at allanfa’r safle, mae ôl troed ein gweithdy adeiladu golygfeydd newydd ni i’w weld – y ffosydd a’r sylfeini ar gyfer yr hyn a fydd yn ffatri theatrig, lle bydd setiau’n cael eu hadeiladu ar gyfer sioeau a fydd yn teithio o amgylch Cymru, o amgylch y DU, efallai, hyd yn oed, o amgylch y byd. Setiau wedi’u hadeiladu gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Sir y Fflint, gan gadw'r sgiliau allweddol sy'n hanfodol i sicrhau bod gan y DU y diwydiannau diwylliannol gorau yn y byd. Wrth ymyl y gweithdy mae ystafell y peiriannau – nid y lle mwyaf cyffrous o bosib, ond un a fydd yn newid ein heffaith ni ar y byd yn sylweddol. Ni fydd nwy yn yr adeilad newydd – byddwn yn defnyddio pympiau gwres ffynhonnell aer i redeg yr adeilad. Byddwn yn cynaeafu ynni solar a dŵr glaw, bydd gennym ni fioamrywiaeth ar doeau a waliau allanol, a bydd gennym ni’r potensial i redeg adeilad carbon positif yn y dyfodol.

Rydw i'n tynnu fy het galed, fy siaced a’r esgidiau trwm ac yn cerdded o amgylch blaen yr adeilad tuag at y maes parcio i yrru’n ôl i'n swyddfeydd dros dro ni yng nghanol yr Wyddgrug. Mae blaen yr adeilad wedi diflannu bellach – wedi’i rwygo i lawr i gael ei ddisodli gan gyntedd modern o’r radd flaenaf – nid yn unig i gynnig gofod gwell, mwy i gynulleidfaoedd a chymunedau dreulio amser ynddo, ond i fod yn llai tebyg i gaer ac yn fwy cysylltiedig â'r tu allan - gan fanteisio i’r eithaf ar y golygfeydd godidog ar draws Bryniau Clwyd.

Rydw i wedi bod yn gweithio tuag at y gwaith hanfodol yma ers 7 mlynedd bellach, ac wedi bod yn ymwneud â phopeth sy’n rhan ohono, o ddylunio i gadwraeth a chynllunio, hyd at gyllid o ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Dim ond pan ydw i’n cymryd cam yn ôl ac anadl ddofn ydw i’n sylweddoli pa mor enfawr ydi’r prosiect yma, a hefyd sut bydd yn newid bywyd nifer enfawr o bobl.

Dim ond hanner ffordd ydyn ni, wrth gwrs, ar ein siwrnai. Pan fydd yr adeilad newydd yn ailagor yn llawn yn gynnar yn 2025, bydd yn ogoneddus, Ond, cyn hynny, mae gennym ni’r darnau olaf yn y jig-so codi arian i ddod o hyd iddyn nhw. Dyma lle mae angen eich help chi – fe allwch chi noddi teilsen, neu ddrych ystafell wisgo, enwi sedd, cynnal arwerthiant pobi neu gyfrannu anrheg. Os ydych chi eisiau cael gwybod mwy, cliciwch yma.

Yn olaf.

Hyd yn oed gyda hyn i gyd yn digwydd - rydyn ni ar agor o hyd! Yn creu sioeau ac yn rhannu’r theatr, y gomedi a’r gerddoriaeth orau – boed hynny yn ein lleoliad dros dro ni, The Mix, drws nesaf i’r Theatr, yn ein chwaer leoliad yn Neuadd William Aston yn Wrecsam neu o Dafarn y Dolphin yn yr Wyddgrug lle mae ein cynhyrchiad cyfranogol ni o The Great Gatsby wedi’i leoli am dri mis yn dilyn rhediad o dair blynedd yn y West End.

Diolch i chi am ddarllen hwn, diolch i chi am eich cefnogaeth, am barhau i ddod i weld ein sioeau ni, ac am fod yn amyneddgar mewn cynteddau dros dro ac am fod mor barod i ddeall wrth i ni wireddu'r freuddwyd enfawr yma. Rydyn ni’n gwneud hyn ar gyfer ein holl gymunedau ni, ar gyfer ein hartistiaid, ar gyfer pobl Sir y Fflint, Gogledd Cymru a thu hwnt. Rydyn ni'n gwneud hyn i sicrhau bod ein dyfodol ni’n ddisglair.

Gyda'ch help a'ch cefnogaeth chi, fe fydd.