Blog: Cyfrinachau’r Adran Gwisgoedd

Y Fersiwn Hir (gyda lluniau)

[5 munud o ddarllen]

By Lily Peers-Dent | Tîm Datblygu

Theatr Clwyd yw theatr gynhyrchu fwyaf Cymru, gyda’n holl adrannau creu yn fewnol. Un adran o’r fath yw’r Adran Gwisgoedd sy’n gwneud gwisgoedd ar gyfer ein holl sioeau ni gan gynnwys y ffrogiau gwych a thros ben llestri sy’n cael eu gwisgo gan y Dêm yn ein Pantos Roc a Rôl. Gyda chyfle cyffrous i ddod i chi gael rhai o'r gwisgoedd hyn (cliciwch y ddolen yma i weld beth sydd ar gael!) roeddem yn meddwl y gallem rannu rhai cyfrinachau mewnol am y camau i greu ein gwisgoedd anhygoel. Daliwch ati i ddarllen tan y diwedd am gyfrinach fwyaf yr Adran Gwisgoedd!

Cam un: Cynllunio

Y cam cyntaf i wneud unrhyw wisg yw gwybod beth yw'r weledigaeth. Bydd y cynllunydd ar gyfer y sioe (sy'n cynllunio’r set a'r gwisgoedd) yn tynnu llun o sut mae eisiau i’r wisg edrych ac yn ei roi i'n tîm Gwisgoedd ni, a all ddechrau cynllunio sut i ddod â’r wisg yn fyw. Mae’n rhaid iddyn nhw brynu defnydd, botymau ac efallai secwin neu ddau - a bydd ein tîm Gwisgoedd ni bob amser yn ceisio dod o hyd i wisgoedd blaenorol i'w hailgylchu a'u hailddefnyddio lle bo modd. Yn ystod y cam yma maen nhw hefyd yn cael mesuriadau'r actor a fydd yn gwisgo'r wisg, fel bod posib eu cynnwys yn y cynllunio.

Cynlluniau gan Adrian Gee ar gyfer Sleeping Beauty (2023)

Cam dau: Cynllunio

Gwaith y Torwyr yw penderfynu sut bydd y wisg yn mynd at ei gilydd. Sut gallan nhw ddefnyddio defnydd fflat a'i drawsnewid yn rhywbeth y gall actor ei wisgo? Yr ateb yw creu patrwm sydd, ar ôl ei wnïo i gyd at ei gilydd, yn creu'r dilledyn. Ond mae hyn dipyn yn anoddach nag y mae'n swnio a rhaid mesur pob darn yn ofalus i wneud yn siŵr bod y cyfan yn dod at ei gilydd yn gywir.

Alison Hartnell, Torrwr, yn rhoi ffrog ar ei gilydd ar gyfer Sleeping Beauty (2023)

Cam tri: Creu

Mae'r dasg nesaf ar gyfer Technegwyr yr Adran Gwisgoedd sy'n gwnïo'r holl ddarnau at ei gilydd! Mae hyn weithiau'n cymryd amser hir oherwydd gall gwisgoedd gynnwys llawer o ddarnau, yn union fel jig-so. Mae angen gwahanol dechnegau gyda gwahanol ddefnyddiau, ac mae rhai yn fwy anodd i weithio gyda nhw nag eraill, er enghraifft mae defnyddiau sy’n ymestyn yn symud ac yn newid wrth gael eu gwnïo, felly mae angen llaw gadarn. Wedyn mae'n amser ar gyfer y ffitio cyntaf i drafod ymarferoldeb o ran yr hyn y bydd yr actor yn ei wneud ar y llwyfan wrth wisgo'r wisg. Sut gall yr actor wneud tin dros ben yn y wisg heb ei rhwygo? Ydi'r actor yn gallu ffitio sosban yn y boced gefn? Ble gall yr actor roi ei feicroffon rhwng ei ganeuon pwerus? Y cwestiynau yma, a llawer mwy, ydi'r rhai y mae'n rhaid i’r Adran Gwisgoedd eu datrys wedyn.

Cam pedwar: Addasu

Weithiau yn y cam yma mae posib gorffen y wisg ond y rhan fwyaf o'r amser mae angen addasu llawer o bethau bach. Yn achlysurol, bydd angen tynnu'r wisg ar wahân i gyd ac wedyn ei rhoi yn ôl at ei gilydd! Mae hyn wedyn yn gofyn am fwy o ffitiadau gyda'r actor ac felly mae'r broses yn ailadrodd. Y gwisgoedd sy'n tueddu i gael y nifer mwyaf o addasiadau yw ein ffrogiau dêm ni oherwydd eu bod nhw mor gymhleth yn aml, ac yn gywrain a dros ben llestri. Maen nhw’n gallu bod yn anodd eu gwisgo a symud o gwmpas ynddyn nhw, yn enwedig os yw ein dêm ni’n hedfan ar draws y llwyfan ar sgwter neu’n swingio sacsoffon o gwmpas y lle.

Cam pump: Gwisgo

O’r diwedd, mae’r wisg yn barod i’w gwisgo ar y llwyfan, ond nid dyma ddiwedd y stori. Yn ystod y sioe mae'n rhaid i’r gwisgwyr fod yn barod i drwsio unrhyw rwygiadau neu fachau sy'n methu. Rhaid defnyddio pinnau diogelwch neu sgiliau gwnïo cyflym i atgyweirio ar y pryd oherwydd, fel rydych chi'n gwybod, mae'n rhaid i'r sioe fynd yn ei blaen! Fodd bynnag, bydd y diwrnod wedyn yn cael ei dreulio’n tynnu'r gwaith atgyweirio dros dro i adfer y wisg yn ofalus ac yn fanwl gywir i'w chyflwr gwreiddiol. Wedyn croesi bysedd na fydd hi’n rhwygo'r noson ganlynol - ond os bydd hynny’n digwydd, mae'n bendant yn y lle iawn!

Unwaith bydd y sioe drosodd, bydd y gwisgoedd yn cael eu storio a'u cadw nes bod posib eu defnyddio eto NEU byddant yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn i'n cynulleidfaoedd hyfryd ni, a dyma’n union sy'n digwydd gyda'n DIGWYDDIAD CLIRIO GWISGOEDD MAWR ni! Dyma’ch cyfle chi i fod yn berchen ar un o’r gwisgoedd anhygoel sydd wedi’u gwneud gyda llaw ac sydd wedi’u gwisgo yng nghynyrchiadau Theatr Clwyd yn y gorffennol. Dilynwch y ddolen yma i weld pa wisgoedd sydd ar gael.

Sleeping Beauty (2023)

Credyd: Andrew AB

Ac yn olaf…

Cyfrinach Fwyaf yr Adran Gwisgoedd

Chwys! (A Fodca! - sy'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o Febreze anghemegol sydd ddim yn gadael unrhyw olion!) Mae hon yn ffactor o bwys wrth greu gwisg sy'n mynd i gael ei gwisgo bob nos ar gyfer rhediad sioe gan actor gweithgar sydd, yn enwedig yn y Panto, yn chwysu bwcedi yn aml. Oherwydd bod ein gwisgoedd ni wedi'u gwneud gyda llaw, maen nhw’n aml yn rhy fregus i gael eu rhoi mewn peiriant golchi dro ar ôl tro. Felly sut ydyn ni'n eu cadw nhw'n arogli ac yn edrych yn dda? Bydd actorion yn gwisgo haenau ychwanegol o dan eu gwisg i amsugno eu holl chwys a gwarchod y gwisgoedd. Wrth gwrs mae hyn yn eu gwneud nhw’n boethach ac felly maen nhw’n chwysu mwy, ond o leiaf mae'r gwisgoedd yn dal i edrych yn wych i'n cynulleidfaoedd ni. Yr eitemau yma yw'r rhai sy'n cael eu golchi wedyn gan adael y brif wisg mewn cyflwr perffaith bron. Tric arall ydi bod yr Adran Gwisgoedd yn rhoi gwarchodwyr dillad y mae posib eu tynnu allan yng ngheseiliau’r dilledyn.

Mae tîm yr Adran Gwisgoedd yn gweithio mor galed i sicrhau bod yr actorion sy'n serennu yn ein theatr o safon byd ni’n edrych yn dda (neu'n ddrwg mewn rhai achosion) ac rydyn ni mor falch o'r gwisgoedd sy'n drawiadol iawn ar ein llwyfannau ni. Bydd ein gwaith ailddatblygu cyfalaf mawr yn helpu i wella'r cyfleusterau ar gyfer tîm yr Adran Gwisgoedd yn ogystal â'n hadrannau creu eraill ni. Mae hyn yn cynnwys gweithdy adeiladu golygfeydd, gofod newydd sbon a fydd yn cael effaith sylweddol ar ein timau creu a’n crefftwyr medrus ni a fydd ar agor i bawb drwy'r oriel wylio gyhoeddus. Os hoffech chi gael gwybod mwy am y gwaith adeiladu gallwch ddarllen ein blog blaenorol ni ac os hoffech chi gefnogi'r prosiect gallwch glicio yma.