Bwrsarïau
Gallech helpu i gefnogi’r llu o bobl sy’n ymwneud â’n prosiectau ymgysylltu drwy gyfrannu tuag at ein bwrsarïau.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ymgysylltu ar sawl lefel wahanol, gan gynnwys:
• Creu llwybrau pwrpasol i unigolion ar ôl iddynt ‘raddio’ o un o’n rhaglenni ymgysylltu creadigol craidd.
• Dyfnhau ein hymgysylltiad â phobl ifanc o rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru a helpu i’w cefnogi i fynychu’r sesiynau maent yn eu gwerthfawrogi
• Darparu prydau poeth i grŵp llawn o blant a phobl ifanc sy'n mynychu sesiynau grŵp.
Mae cymorth bwrsari yn ein galluogi i ddarparu mannau diogel, dibynadwy a chyfrinachol i bobl ifanc gyfarfod, heb fod yn ddibynnol ar eu presenoldeb na’u perfformiad yn yr ysgol neu mewn lleoliadau sefydliadol eraill, gan feithrin ymddiriedaeth a chydlyniant, cefnogi hunan-barch a hunanymwybyddiaeth, ac ysbrydoli ffyrdd newydd o feddwl am y byd.