Codi arian ar gyfer Theatr Clwyd
Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan a helpu i ailddatblygu Theatr Clwyd. Un ffordd yw cynnal eich digwyddiad codi arian eich hun.
Gallai hyn gynnwys cynnal te prynhawn neu agor eich gardd i ffrindiau a theulu neu, i'r jynci adrenalin, neidio oddi ar blatfform. Pa bynnag ffordd rydych chi eisiau codi arian i Theatr Clwyd, rydyn ni yma i'ch helpu chi.
Syniadau ac ysbrydoliaeth
Ofn uchder?
Wynebwch yr ofn gyda naid dandem noddedig yn ZipWorld ar Plummet 2 gyda naid anhygoel ar blatfform 100m
Hapus i dorchi eich llewys?
Golchwch geir, glanhau ffenestri, torri'r lawnt. Rhowch bris ar yr holl dasgau a chodi arian ar gyfer y gwaith ailddatblygu.
Angen trefn ar eich pethau?
Sêl sborion fodern, rhowch drefn ar unrhyw ddillad diangen a'u gwerthu ar Ebay neu Vinted.
Amser gwisgo fyny?
Heriwch eich hun i wisgo fel cymeriadau theatr eiconig am wythnos. O Shakespeare ar ddydd Llun i Elsa ar ddydd Sul - mae llawer o hwyl i'w gael.
Beth ydi’ch her chi?
O farathonau yn Eryri i rasys beicio yn Swydd Gaer, mae digon o ddigwyddiadau heriol i ddewis o’u plith.
Te a chacen unrhyw un?
Rhowch gynnig ar bobi (neu brynu) danteithion i gynnal te prynhawn. Gardd braf? Dangoswch eich blodau hefyd!
Angen rhyddhau eich creadigrwydd?
Slam barddoniaeth neu noson jam, beth bynnag yw eich dawn, gadewch iddi ddisgleirio a chodi arian hanfodol ar gyfer y gwaith ailddatblygu.
Pwy wnaeth?
Cynhaliwch noson dirgelwch llofruddiaeth a chwarae ditectif wrth geisio darganfod pwy o'ch ffrindiau y gallwch chi ymddiried ynddyn nhw – neu ddim.
Syniadau i helpu eich digwyddiad i redeg yn esmwyth a chodi cymaint o arian â phosibl:
- Sefydlwch dudalen JustGiving (justgiving.com), mae’n hawdd ei rhannu gyda ffrindiau a theulu ac mae’n casglu’r holl roddion ar eich rhan chi.
- Gwnewch eich targed codi arian yn un y gallwch ei gyrraedd. Gallwch ei gynyddu yn nes ymlaen os bydd angen
- Gofynnwch i'ch noddwr mwyaf eich noddi chi gyntaf - mae'n helpu i ysbrydoli cyfranwyr eraill!
- Casglwch rodd cymorth ar ffurflenni nawdd, sydd ar gael i’w lawrlwytho yma. Gall hyn ychwanegu 25% at y swm a godir.
- Rhannwch eich stori. Beth mae Theatr Clwyd yn ei olygu i chi?
- Defnyddiwch eich sgiliau. Os ydych chi'n hoffi bod o flaen y camera, efallai mai'r her 7 diwrnod mewn gwisg ffansi yw’r un i chi ond os mai planhigion sy’n mynd â’ch bryd chi, dewiswch gynnal parti gardd.
- Cadwch bethau’n gyfreithlon, lawrlwythwch y daflen yma gyda gwybodaeth am sut i gadw eich digwyddiad yn ddiogel ac yn gyfreithlon.
- Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r hyn rydych chi'n ei wneud. #ChwaraeEichRhan
Os hoffech chi godi arian ac os ydych chi eisiau cyngor a chefnogaeth, cysylltwch â Janine Dwan, neu Lily Peers-Dent.