Manteision Cwmni

Penblwyddi Ffwrdd
Mae penblwyddi yn arbennig, felly rydyn ni'n rhoi diwrnod i ffwrdd i aelodau'r cwmni!

Gwyliau
Lleiafswm o 24 diwrnod yn cynyddu i 28 diwrnod (ynghyd â gwyliau banc)

Cynllun Pensiwn
Cyfraniad Diffiniedig gyda chyfraniad cwmni o 6%

Taliadau Absenoldeb Arbennig
Mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, riniaeth ffrwythlondeb, a thâl salwch cwmni

Aelodaeth Gym Gostyngol
50% oddi ar aelodaeth gym o'ch dewis chi – arhoswch yn actif am lai!

Cynllun Beicio i'r Gwaith
Mae gennym gynllun drwy Caboodle

Dyddiau Lles Cwmni
Yn ogystal â gwyliau blynyddol, bydd gan aelodau cwmni o leiaf ddau 'ddiwrnod llesiant' y flwyddyn galendr.

Diwrnodau Ffwrdd y Cwmni
Cyfleoedd i'r cwmni cyfan dreulio amser gyda'i gilydd

Aelodaeth Theatr Clwyd
Aelodaeth am ddim i holl aelodau'r cwmni

Cyfleoedd Dysgu a Datblygu
Gan gynnwys hyfforddiant proffesiynol a gwersi Cymraeg

Gwersi cerddoriaeth gostyngol
Ar gael trwy ein darpariaeth gerddorol Llwybrau Cerddorol

Carafan y Cwmni
Mynediad unigryw i archebu ein Carafan Cwmni Arfordirol

Gweithio Gartref
Mae gweithio hybrid ar gael i unrhyw aelod o'r cwmni sy'n gallu cyflawni elfen o'u rôl tra'n gweithio gartref.

Cyfleusterau Swyddfa Gwych
Te, coffi a ffrwythau am ddim

Gofal Iechyd
Brechiadau ffliw am ddim a gwiriadau gwyliadwriaeth iechyd

Diodydd / hufen iâ am bris gostyngol
Mae aelodau'r cwmni'n elwa ar ddiodydd poeth ac oer am bris gostyngol a hufen iâ

Bwyty/bar disgownt
Mae aelodau'r cwmni'n elwa o fwyd a diod am bris gostyngol

Gwersi Cymraeg
Rydym yn ariannu gwersi Cymraeg trwy learnwelsh.cymru a Choleg Cambria, gan gynnig cyrsiau hyblyg ar-lein i bob lefel o ddysgu

Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Gwasanaeth 24/7 am ddim i gynorthwyo mewn meysydd gan gynnwys materion ariannol, perthnasoedd a materion cyfreithiol

Cwrs Hyfforddi BSL (Iaith Arwyddion Prydain).
Bydd Theatr Clwyd yn talu costau sesiynau BSL Lefel 1 ar-lein o bslcourses.co.uk, gan eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu sylfaenol gyda phobl Fyddar/Trwm eu Clyw.

Seibiannau Sabothol/Gyrfa
Gellir caniatáu seibiannau gyrfa (3-12 mis o absenoldeb di-dâl) yn seiliedig ar anghenion busnes.