Bwyta ac Yfed

Mae’r Cogydd o fri o Gymru, Bryn Williams, yn dod â’i angerdd am gynnyrch lleol tymhorol, cynaliadwy i’w fwyty newydd yng nghalon Theatr Clwyd. O frecwastau hamddenol, ciniawau a the prynhawn i swperau o safon gyda'r nos - gwnewch eich ymweliad yn brofiad i'w gofio.

Mae Bryn Williams at Theatr Clwyd wedi cael ei ddylunio i gyd-fynd yn berffaith ag adeilad eiconig Theatr Clwyd ar ei newydd wedd.

Y Bwyty
Wedi'i leoli ar y llawr cyntaf yn edrych dros fryniau trawiadol Clwyd, yn y bistro modern Cymreig yma bydd coginio Ffrengig yn cwrdd â chynhwysion Cymreig. Bydd ein gofod llawn golau, gyda'i awyrgylch bwyta anffurfiol, yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau un, gyda chig a llysiau’n cael lle amlwg.

Mae'n hygyrch drwy gydol y dydd ar gyfer brecwast, cinio a swper. Er bod posib i chi wneud hynny, does dim rhaid i chi archebu sioe bnawn neu nos yn y theatr i ddod i fwynhau danteithion y bwyty neu'r teras.


Caffi Bryn Williams

Ar y llawr gwaelod mae’r caffi, sydd ar agor rhwng 9am a 9pm, gyda dewis eang o frechdanau ffres, cacennau a bwyd poeth, yn berffaith ar gyfer paned o de neu goffi gyda byrbryd wrth gael cyfarfod busnes bach neu ddal i fyny gyda ffrindiau.



Am Bryn Williams

Yn hanu o ychydig filltiroedd o galon Theatr Clwyd, mae Bryn Williams, a aned yn Ninbych, yn Gogydd o fri o Gymru sydd wedi gwneud ei farc yn y byd coginio.

Dysgodd Bryn i werthfawrogi bwyd a'i darddiad o oedran cynnar. Wedi’i eni i deulu ffermio, datblygodd barch at fwyd wrth dyfu llysiau, pysgota a rheoli adar hela ar fferm ei ewythr.

Mae wedi cael ei gyflogi yn rhai o geginau mwyaf mawreddog Llundain gan weithio o dan Marco Pierre White yn The Criterion, Michel Roux yn Le Gavroche, ac fel uwch gogydd sous yn The Orrery. Bryn oedd perchennog Odette’s yn Primrose Hill am 16 mlynedd nes iddo werthu’r bwyty am borfeydd newydd yn 2024.

Mae Bryn hefyd ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn, Bwyty, Caffi a Bar ar lan y môr ar Arfordir Gogledd Cymru. Agorodd ei drydydd bwyty yn 2020 yng ngwesty ‘The Cambrian’ yn Alpau syfrdanol y Swistir. Y lleoliad diweddaraf yw ‘The Touring Club’ ym Mhenarth, Caerdydd.

Mae Porth Eirias a'r Touring Club wedi derbyn gwobr fawreddog Michelin Bib Gourmand.

Mae Bryn yn hynod gyffrous am gael y cyfle i ddod â’i greadigrwydd a’i fwydlenni wedi’u creu’n fedrus i Theatr Clwyd lle mae natur dymhorol, creadigrwydd, cynaliadwyedd, ac angerdd dros ddefnyddio cynnyrch lleol a hyrwyddo’r pantri amrywiol ac o safon sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig yn elfennau allweddol o’r ffordd mae Bryn yn cyflwyno ei fwyd.