Oriau Agor

Bydd ein bwyty ni’n agor ym mis Mai 2025.
Y Bwyty
Wedi'i leoli ar y llawr cyntaf yn edrych dros fryniau trawiadol Clwyd, yn y bistro modern Cymreig yma bydd coginio Ffrengig yn cwrdd â chynhwysion Cymreig. Bydd ein gofod llawn golau, gyda'i awyrgylch bwyta anffurfiol, yn defnyddio'r cynhwysion lleol gorau un, gyda chig a llysiau’n cael lle amlwg. Mae gan ein bar ni ddewis gwych o gwrw Prydeinig, rhestr win drawiadol ac mae'n gweini byrbrydau bar clasurol. Cliciwch yma i archebu
Mae'n hygyrch drwy gydol y dydd ar gyfer brecwast, cinio a swper. Er bod posib i chi wneud hynny, does dim rhaid i chi archebu sioe bnawn neu nos yn y theatr i ddod i fwynhau danteithion y bwyty neu'r teras.
Oriau Agor Dyddiol - Agor o Fai 2025
Mae ein Bwyty ni ar agor, yn gweini bwyd, rhwng 9am a 9pm.
Brecwast | 9:30am - 11:15am |
Cinio | 12pm - 2:30pm |
Swper | 5pm - 8:00pm |
Bar | 9:30am - 11pm |
Rydyn ni ar gau ar Ddydd Nadolig (25 Rhag)