Amgylchedd.

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gyrraedd carbon sero net. Dyna pam rydym wedi ei wneud yn flaenoriaeth - o lanhau traethau a gorffen ein defnydd o wellt plastig, i goetir newydd a phaneli solar.
Mae ein lle ar y blaned yn un sy'n bwysig i ni.
Cartref newydd gwyrdd...
👋 Ffarwelio â Nwy.
Mae ein hadeilad ni'n arwr di-danwydd ffosil sy'n cael ei bweru gan bympiau gwres ffynhonnell aer! Mae'n gynnes ac yn glyd heb niweidio'r blaned.
Drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy, mae'n lleihau allyriadau carbon, gan arbed y Ddaear a chadw pawb yn glyd ac yn hapus hefyd.
🌳 Helo i gynefinoedd Newydd.
Gyda waliau a thoeau gwyrdd ir, bydd ein hadeilad ni'n blodeuo'n freuddwyd i bawb sy’n hoff o fyd natur! Nid yn unig y mae'n hybu bioamrywiaeth, ond mae hefyd yn helpu i lanhau'r aer ac oeri'r amgylchedd.
Gwerddon ddeiliog sy’n wych i bobl a bywyd gwyllt.
🌞 Mwynhau'r Haul.
Cyn bo hir bydd ein hadeilad ni'n disgleirio'n llachar gyda phaneli solar, gan amsugno pŵer yr haul. Drwy ffrwyno ynni adnewyddadwy, gallwn leihau ein hôl troed carbon a helpu i warchod byd natur.
💧 Casglu Dŵr Glaw i Fflyshio'r Toiledau.
Mae casglu dŵr glaw i fflyshio toiledau yn hwyl ac yn eco-gyfeillgar!
Mae fel rhoi ail fywyd i rodd natur. Drwy ddefnyddio dŵr glaw, rydyn ni'n arbed dŵr croyw gwerthfawr ac yn lleihau'r defnydd o ynni, gan wneud pob fflysh yn fuddugoliaeth i'r blaned!
Diolchwn yn ddiffuant i’n cyllidwyr ni, y WCVAa The Moondance Foundation am ein galluogi ni i gyflawni nifer o’r mentrau gwyrdd hyn.

Beth ydym ni'n ei wneud?...
🌱 Plannu coetir newydd.
Mae coed yn wych. Maent yn darparu cynefinoedd naturiol i bryfed, adar ac ystlumod, yn tynnu carbon allan o’r atmosffer ac yn oeri’r ddaear oddi tanynt. Maen nhw’n wych ar gyfer ein dyfodol a’n heneidiau.
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Sir y Fflint i blannu 1,100 o goed brodorol!
📗 Theatre Green Book.
Mae’r Theatre Green Book yn rhoi canllawiau i’n diwydiant ni i weithredu’n gynaliadwy. Mae’n darparu cyfres o safonau ar gyfer creu theatr a lleoliadau – gan gynnwys y cyfleusterau sydd gennym ni yn ein hadeiladau a sut rydyn ni’n eu defnyddio. Rydyn ni’n gweithio gyda’r Theatre Green Book ac yn ceisio sicrhau bod y sioeau rydyn ni’n eu creu yn cadw at y safonau hyn.
🌍 Cydweithio.
Rydyn ni’n gweithio gyda, yn cefnogi neu’n dysgu gan ffrindiau ac arbenigwyr – pobl sy’n arwain y ffordd wrth gymryd camau cynaliadwy, yn lleol ac yn fyd-eang.
Mae aelodau ein cwmni ni wedi derbyn Hyfforddiant Llythrennedd Carbon (gan Centre for Alternative Technology a Zero Carbon Britain gyda chefnogaeth gan Brifysgol Wrecsam) ac rydyn ni’n gweithio gyda’r sefydliadau lleol, ysbrydoledig canlynol i leihau ein heffaith carbon.
Green Gumption | Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru | Reset Scenery