Brên. Calon. Fi.

See dates and times  

Archebu i aeolodau o 16 Chwe.
Archebu i’r cyhoedd o 3 Maw.

0 Stars

Dyma'r ddrama orau dwi wedi gweld ers tro byd
BBC Radio Cymru

Monolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan un o ddramodwyr gorau Cymru

‘Dwi jysd yn keen. Generally, mewn bywyd. Lot rhy keen actually.’

Dyma Fi: hogan pentra' efo gwallt spikes a BMX, yn ffansio genod ond cogio bod yn strêt; yn disgyn mewn cariad efo dynas ar cae rygbi ond cheith hi’m deud wrth neb bod hi’n disgyn mewn i'w gwely; mynd i Llundan i fod yn lesbian mewn byd lesbian yn caru bob lesbian eiliad... nes bod hi ddim.

Wrth i Fi fynd â ni ar daith o’i bywyd carwriaethol - y crushes cyfrinachol, y caru lletchwith a’r tor-calon blêr - mae'n dod i ddeall cymhlethdodau byw'n driw i'w hun wrth dyfu fyny fel tomboy yn y nawdegau.

Wedi'i ddewis fel un o Goreuon Theatr 2022 gan y Guardian, dyma fonolog doniol a dirdynnol am chwant a chariad lesbiaidd gan un o ddramodwyr gorau Cymru, Bethan Marlow, wedi’i gyfarwyddo gan Rhiannon Mair.

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Comisiynwyd Brên. Calon. Fi yn wreiddiol gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru i'w berfformio yn Nhregaron 2022. Wedi'i ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru.