Casglu/Gather

3 Oct - 14 Jan

Mae Casglu yn ofod misol i ddawnswyr, symudwyr a phobl sy’n creu i ddod at ei gilydd i symud, rhannu a chysylltu ar draws Gogledd Cymru. Mae Casglu yn bartneriaeth rhwng Cywaith Dawns Gogledd Cymru, a Theatr Clwyd.

Mae'r sesiynau hyn wedi'u hanelu at unrhyw un sydd ag ymarfer dawns neu symud proffesiynol yn ogystal â myfyrwyr mewn hyfforddiant llawn amser.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com


Workshop with Angharad Jones-Young

Dydd Llun 7fed o Ebrill, 9:30-12:00yh
@ St David’s Building, Daniel Owen Square, Mold.
AM DDIM, archebwch drwy ein box office.

BYWGRAFFIAD

Mae Angharad Jones-Young yn ddawnswraig gyfoes, yn berfformwraig ac yn athrawes a gafodd ei magu yn Eryri, Gogledd Cymru. Astudiodd Angharad yn y Northern School of Contemporary Dance (2017-2021) cyn mynd ymlaen i ymuno â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru fel prentis dawns (2021-2022). Gyda'r cwmni, bu'n teithio gweithiau gan Andrea Costanzo-Martini, Anthony Matsena a Caroline Finn. Wedyn daeth Angharad yn ddawnswraig cwmni gydag ACE dance & music – cwmni cyfoes / affro-uniad wedi’i leoli yn Birmingham – lle bu’n teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan berfformio gwaith gan Vincent Mantsoe, Gail Parmel a Serge Coulibaly. Yn 2024, penderfynodd Angharad ddilyn gyrfa fel dawnswraig lawrydd ac ers hynny mae wedi bod yn gweithio gyda chwmnïau amrywiol gan gynnwys Ransack Dance Company a Keneish Dance. Mae Angharad hefyd yn angerddol iawn am addysgu a choreograffi, ac wedi gwneud gwaith / addysgu i Ysgol Ballet Elmhurst, DanceFest ac amrywiol Ganolfannau Hyfforddiant Uwch.

DISGRIFIAD O'R GWEITHDY

Bydd y gweithdy'n dechrau gyda sesiwn cynhesu dan arweiniad a fydd wedyn yn arwain at gyfresi teithio a dilyniannau cyfoes. Bydd ail hanner y sesiwn yn edrych ar arddulliau dawns Affro-uniad wedi'u cyfuno â dawns gyfoes, gan ganolbwyntio'n bennaf ar elfen gerddorol, rhythm a grŵf drwy ddefnyddio mynegiant yr asgwrn cefn a gwaith traed.

Yn addas ar gyfer y rhai sy'n hoff o symud a grŵf, ac sy'n barod i roi cynnig ar rywbeth hwyliog a newydd.

Bio

Angharad Jones-Young is a contemporary dancer, performer and teacher who grew up in Snowdonia, North Wales. Angharad studied at the Northern School of Contemporary Dance (2017-2021) before going on to join National Dance Company Wales as an apprentice dancer (2021-2022). There, she toured works by Andrea Costanzo-Martini, Anthony Matsena and Caroline Finn. Angharad then became a company dancer with ACE dance & music - a contemporary/afro-fusion company based in Birmingham - where she toured both nationally and internationally, performing work by Vincent Mantsoe, Gail Parmel and Serge Coulibaly. In 2024, Angharad decided to pursue her career as a freelance dancer and has since been working with various companies including Ransack Dance Company and Keneish Dance. Angharad is also very passionate about teaching and choreography, and has made work/taught for Elmhurst Ballet School, DanceFest and various Centres for Advanced Training.


Archebu

I fynd yn fyw ar y 2 o Fedi 2024

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.

E-bost: box.office@theatrclwyd.com

Ffôn: 01352 344101