Cinderella

The Rock 'n' Roll Panto

See dates and times  

Dyddiadau Mynd Ar Werth

Aelodau Theatr ClwydO 6 Ion
Ysgolion O 8 Ion
Y Cyhoedd yn Gyffredinol O 13 Ion

Gwerthu ar-lein o 10am | Gwerthu dros y ffôn o 10am


Byddwch yn barod i rocio!

Mae ein panto enwog ni'n dychwelydgyda cherddoriaeth fyw a'r caneuon roc, pop a soul mwyaf!

Gallwch ddisgwyl hud, rhamant a chwiorydd cas,
tiwns trawiadol a geiriau ar ras!

Fydd Sinderela yn cael mynd i'r ddawns?
A chariad pur yn ennill siawns?

Bydd chwerthin, bydd dagrau, gweiddi bŵ a hwrê!
Sioe Nadoligaidd syfrdanol - bachwch eich lle!

Yr awdur yw Christian Patterson (Mother Goose, Sleeping Beauty) ac yn cyfarwyddo mae Daniel Lloyd (Mother Goose, Sleeping Beauty).

Arbedion Deryn Cynnar

Mae ein cynnig deryn cynnar ni'n parhau tan 31 Ion ac yn rhoi gostyngiad o 10% i chi oddi ar docynnau pris llawn, band A sy'n cael eu harchebu ar gyfer y perfformiadau canlynol: 22 Tach - 5 Rhag | 7 - 12 Rhag | 4 - 9 Ion | 11 - 17 Ion

Telerau ac Amodau | Mae'r cynnig yma'n dibynnu ar argaeledd, y cyntaf i'r felin, a bydd y gostyngiad yn cael ei roi yn y fasged. Dim ond i docynnau y byddwch chi'n talu amdanynt erbyn 31 Ionawr 2025 mae’r cynnig yn berthnasol. Hefyd, dim ond i docynnau pris llawn, Band A (porffor) mae’r cynnig yn berthnasol.


Perfformiadau Ysgolion - Cliciwch yma am fwy

3 Rhag 10am | 1:30pm
4 Rhag 10am | 1:30pm
9 Rhag 1:30pm
10 Rhag 10am | 1:30pm
11 Rhag 10am | 1:30pm
16 Rhag 1:30pm
17 Rhag 10am | 1:30pm
18 Rhag 10am | 1:30pm
7 Ion 10am | 1:30pm
8 Ion 1:30pm
14 Ion 1pm
15 Ion 1:30pm

Mae'r perfformiadau yma ar gael i'w harchebu ar gyfer ysgolion a grwpiau addysg yn unig. Tocynnau ysgolion o £12. I archebu tocynnau ar gyfer eich ysgol e-bostiwch Rhiannon Isaac - rhiannon.isaac(at)theatrclwyd.com neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01352 344101, os gwelwch yn dda.

Pa bryd bydd y byrddau yn y bwyty ar gael i'w harchebu ar gyfer Cinderella?

Byddem yn cysylltu â phawb sydd wedi archebu tocyn cyn gynted a bydd archebion y bwyty ar gyfer Tachwedd 2025 i Ionawr 2026 ar gael.