Symudiad a Dawns Curiad

Maw 24 Medi - Maw 1 Gorffennaf 25

Cyfle i archwilio eich corff drwy symudiad a dawns yn ein sesiynau dawns cyfoes sy'n agored i bawb 17+ oed. Does dim angen unrhyw brofiad.

Mae'r sesiynau yma’n wych ar gyfer datblygu ffitrwydd yn ogystal â chefnogi iechyd a lles y meddwl. Rydyn ni’n addasu ein sesiynau fel bod pawb yn gallu cymryd rhan – gallwn weithio o fewn anghenion corfforol unigol pawb – o ffitrwydd i anafiadau – a does dim stepiau i’w dysgu, dim ond archwilio symudiad a cherddoriaeth drwy ein cyrff.


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.

Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 8 Mawrth (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf: Dydd Mawrth 6 Mai – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025



Faint mae’n gostio?


Bwrsarïau

Mae'n hanfodol i ni bod ein holl grwpiau ni’n hygyrch i bawb. Mae Theatr Clwyd yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau i gynorthwyo gyda chefnogaeth ariannol i alluogi cyfranogwyr i gael mynediad i’n gweithdai a’n gwersi cymunedol ni.

Nid yw ein bwrsarïau ni’n destun prawf modd ond maen nhw’n cael eu rhannu fesul achos. Os hoffech chi ddangos diddordeb mewn derbyn bwrsari, llenwch ein holiadur byr ni drwy Glicio Yma a byddwn yn adolygu eich cais.




Cost Flynyddol

Debyd Uniongyrchol Misol

Cost Lawn pris safonol

£220.00

£20.00

Bwrsari o 25%

Lle gyda chefnogaeth

£165.00

£15.00

Bwrsari o 50%
Lle gyda chefnogaeth

£110.00

£10.00

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu.


Archebu

I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.

E-bost: box.office@theatrclwyd.com

Ffôn: 01352 344101