Grwp Ysgrifennu Cwils

Iau 26 Medi - Iau 3 Gorffennaf 25

Ar gyfer y rhai 17+ oed

Cyfle i archwilio a meithrin eich sgiliau fel awdur ochr yn ochr â'n harweinydd cwrs profiadol. Byddwch yn edrych ar wahanol genres – o gomedi i ddrama – a’r elfennau allweddol y mae angen i awdur gwych eu deall gan gynnwys datblygu plotiau, ysgrifennu dechrau difyr, canol campus a diweddglo diguro, a saernïo cymeriadau credadwy, realistig.

Byddwch yn siarad ag awduron gwadd, yn gweld sioeau ac yn dadansoddi’r gwaith a welwch, ac yn datblygu eich dealltwriaeth o sut mae theatr yn cael ei chreu.

Byddwch yn creu eich gwaith eich hun, yn derbyn adborth proffesiynol mewn amgylchedd cynnes a chefnogol.


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.

Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 8 Mawrth (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf: Dydd Mawrth 6 Mai – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025



Faint mae’n gostio?


Bwrsarïau

Mae'n hanfodol i ni bod ein holl grwpiau ni’n hygyrch i bawb. Mae Theatr Clwyd yn cynnig amrywiaeth o fwrsarïau i gynorthwyo gyda chefnogaeth ariannol i alluogi cyfranogwyr i gael mynediad i’n gweithdai a’n gwersi cymunedol ni.

Nid yw ein bwrsarïau ni’n destun prawf modd ond maen nhw’n cael eu rhannu fesul achos. Os hoffech chi ddangos diddordeb mewn derbyn bwrsari, llenwch ein holiadur byr ni drwy Glicio Yma a byddwn yn adolygu eich cais.




Cost Flynyddol

Debyd Uniongyrchol Misol

Cost Lawn pris safonol

£220.00

£20.00

Bwrsari o 25%

Lle gyda chefnogaeth

£165.00

£15.00

Bwrsari o 50%
Lle gyda chefnogaeth

£110.00

£10.00

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost i box.office@theatrclwyd.com ac fe wnawn ni ein gorau glas i helpu.


Archebu

I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.

E-bost: box.office@theatrclwyd.com

Ffôn: 01352 344101