Dawns ar gyfer Parkinson’s (Byw)
Mercher 25 Medi - Mercher 2 Gorffennaf 25
Dawns ar gyfer Parkinson’s - Byw
Ymunwch â ni wyneb yn wyneb ar gyfer dawns, symud a cherddoriaeth fyw sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer Pobl sy'n byw gyda Parkinson's, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Mae ein sesiynau Dawns ar gyfer Parkinson’s yn eich gwahodd i symud mewn ffordd sy’n teimlo’n dda i chi. Rydym yn cynnwys ymarferion eistedd a sefyll y gellir eu haddasu i anghenion unigolion ac sy'n hygyrch i bawb.
Rydym yn llifo trwy wahanol ymarferion symud a delweddaeth greadigol i ddod â'n dychymyg yn fyw trwy symud. Mae'r sesiynau'n canolbwyntio ar ddod o hyd i lif, cryfder a mynegiant trwy symud gyda chefnogaeth cerddoriaeth fyw rymus. Byddwn yn gorffen gydag amser i gael paned a sgwrs.
Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.
Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)
Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 8 Mawrth (Dim sesiynau)
Tymor yr Haf: Dydd Mawrth 6 Mai – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025
Archebu
I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.
E-bost: box.office@theatrclwyd.com
Ffôn: 01352 344101