Drama a Chreadigrwydd 4, 5 a 6 (Grŵp 2)

Sad 28 Medi - Sad 5ed Gorffennaf 25

Ar gyfer pawb ym mlynyddoedd ysgol 4, 5 a 6

Cyfle i archwilio eich creadigrwydd a dysgu am greu theatr gyda thîm Theatr Clwyd o artistiaid ac arweinwyr gweithdai talentog. Gallwch ddisgwyl cael rhoi cynnig ar lawer o wahanol brofiadau – o actio a dawnsio i gerddoriaeth a gwaith sgript, a mynd tu ôl i’r llenni hyd yn oed efallai. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, rhannu straeon, chwerthin a gwneud ffrindiau newydd.

Mae hwn yn grŵp poblogaidd. Os nad oes lle ar gael, rhowch gynnig ar Drama a Chreadigrwydd 4, 5 a 6 (Grŵp 1) sy’n cael ei gynnal ar ddydd Llun.


Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?

Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.

Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)

Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 8 Mawrth (Dim sesiynau)

Tymor yr Haf: Dydd Mawrth 6 Mai – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025



Faint mae’n gostio?


Bwrsarïau
Mae'n hanfodol i ni fod unrhyw un yn gallu cael mynediad i'n grwpiau a bydd ein cynllun bwrsariaeth heb gwestiynau yn parhau yn ei le eleni. Mae’r cynllun hwn yn eich galluogi i dalu’r pris llawn o £220 y flwyddyn, gwneud cais am 25% i ffwrdd a thalu £165 y flwyddyn, gwneud cais am 50% i ffwrdd a thalu £110 y flwyddyn. Telir yn fisol trwy ddebyd uniongyrchol.

Mae gennym ddwy lefel o fwrsariaeth yn cynnig lefelau gwahanol o ostyngiad.



Cost Flynyddol

Debyd Uniongyrchol Misol

Cost Lawn pris safonol

£220.00

£20.00

Bwrsari o 25%

Lle gyda chefnogaeth

£165.00

£15.00

Bwrsari o 50%
Lle gyda chefnogaeth

£110.00

£10.00


Nid oes gennym broses ymgeisio fanwl am fwrsariaethau gan ein bod yn ymddiried ynoch i dalu’r hyn y gallwch ei fforddio. Diolch i'ch gonestrwydd gall y rhai sydd angen ychydig o help gael y gostyngiad sydd ei angen arnynt i gymryd rhan.

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal rhag cymryd rhan megis mynediad neu broblemau gyda theithio, anfonwch e-bost at box.office@theatclwyd.com ac fe wnawn ein gorau glas i helpu.


Archebu

I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.

E-bost: box.office@theatrclwyd.com

Ffôn: 01352 344101