Diffoddwch eich goleuadau gartref ac ymunwch â ni am noson glyd, yng ngolau cannwyll, o gerddoriaeth a barddoniaeth wedi’u hysbrydoli gan fyd natur a’r blaned.
Dechreuodd Awr Ddaear fel mudiad 'diffodd goleuadau' byd-eang. Mae'r digwyddiad blynyddol yn annog pobl i ddiffodd eu goleuadau trydan am awr fel symbol o ymrwymiad i'r blaned.
Rydyn ni'n cynnal digwyddiad AM DDIM yn llawn cerddoriaeth a barddoniaeth sy'n dathlu'r blaned - ond ’allwn ni ddim gwneud hynny yn y tywyllwch!
Byddwn yn ffrwyno ein hynni cinetig ein hunain gyda goleuadau pŵer pedal i sicrhau bod ein digwyddiad yn ddi-garbon, yn atmosfferig ac yn llawn hwyl.
Dewch gyda ni ar daith i lunio ein dyfodol, cael eich goleuo gan berfformiadau acwstig a llafar a chael eich goleuo (yn llythrennol) gan dîm Theatr Clwyd a fydd yn pedlo 10 beic cynhyrchu trydan.
Archebwch eich tocyn fel ein bod yn gallu oeri diodydd ymlaen llaw ac anfon mwy o wybodaeth atoch chi cyn y digwyddiad.
Ser y sioe:
Beiciau cynhyrchu ynni!
a'r tîm o Theatr Clwyd a fydd yn eu reidio nhw