FAF - Flying Bedroom

Past Production

See dates and times  

Ymunwch â ni am antur i greu cerddoriaeth, creu theatr ac adrodd straeon! Mae The Flying Bedroom yn cyfuno technoleg cerddoriaeth a phypedwaith i greu straeon, seinweddau ac is-sgoriau.

Bydd y rhannu yma’n denu teuluoedd i gamau cynnar datblygu sioe ryngweithiol a chyfranogol newydd, ar gyfer plant 7 i 11 oed.

Fel cerddorion, cynllunwyr a chyfansoddwyr proffesiynol, mae The Flying Bedroom eisiau rhannu eu gwaith gyda chi a gofyn am eich adborth wedyn.

Sut oedd y gerddoriaeth yn gwneud i chi deimlo?

Sut oedd y pypedau yn swnio?

Pa straeon wnaethoch chi eu dychmygu?

Gyda diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Clwyd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a Gŵyl Theatr Wells.