Mr Toad

Past Production

See dates and times  

4 Stars

PoppyJo and Me

Mr Toad fydd yn hawlio’r sylw mewn ail-gread newydd ffrwydrol o Wind in the Willows gan Kenneth Graham.

Mae Toad yn eich gwahodd chi i weld ei sioe newydd fawreddog ‘Mr Toad’, gyda chefnogaeth ei griw ragtag o berfformwyr; Ratty, Badger a Mole. Ond wrth i’r stori ddyfnhau, mae pethau’n dechrau mynd yn flêr… Gyda Toad Hall dan fygythiad gan y Vin Weasel slei, fe allai angen dibendraw Toad am gyflymder ei roi mewn trafferthion difrifol! Rhaid i Toad ddarganfod beth mae bod yn arwr yn ei olygu mewn gwirionedd.

Sioe sy’n llawn cariad, chwerthin a gwersi twymgalon mewn cyfeillgarwch, mae Mr Toad yn berffaith i deuluoedd gyda chaneuon doniol, jôcs ffraeth, a phypedwaith hyfryd gan Matthew Forbes, Cyfarwyddwr Pypedwaith Cyswllt cynhyrchiad arobryn y National Theatre o War Horse.

Mae'r stori fyrlymus a hynod chwerthinllyd yma am Mr Toad yn troelli draw i'r Wyddgrug yr haf yma. Tŵt Tŵt!

Wise Owl Theatre | Ysgrifennwyd gan Daisy Porter

Adolygiadau

  • 4 Stars

    'Mr Toad is an absolute delight…. This really is a wondrous tale for children – and adults – of all ages.'
    PoppyJo and Me