Ha/Ha

Past Production

See dates and times  

Pontypridd! Ymunwch â ni i ddeffro'r hwyl...
i atgyfodi comedi…I ATGYFOMEDI!

Dydyn ni gyd angen rhywbeth i godi calon…?

Pontypridd! Ymunwch â ni i ddeffro'r hwyl... i atgyfodi comedi… I ATGYFOMEDI!

Dramodwyr digri, cast penigamp ac awr wyllt o lol a laffs gan Theatr Gen a Theatr Clwyd!

Sgwennu newydd sbon gan Caryl Burke, Mari Elen Jones, Geraint Lewis a Gruffydd Ywain.

Yn serennu Dion Davies, Caitlin Drake, Lowri Gwynne, Leilah Hughes, Dewi Wykes a Barnaby Southgate.

D.I.N.K.s
gan Caryl Burke
Wrth aros am ganlyniad prawf beichiogrwydd, mae Mared a Twm – cwpwl sy’n ymfalchïo yn eu statws fel D.I.N.K.s (dual income, no kids) – yn trafod os ydyn nhw’n barod i ddod â bywyd bach newydd i’r byd...

Byd Donna Tan y Pandy
gan Geraint Lewis
Wrth i’r Eisteddfod gychwyn, mae Donna (perchennog y lle tanio lleol, Tan y Pandy) yn ymweld ag adfeilion y Forwyn Fair i weddïo am wythnos lwyddiannus i’w busnes. Tra bod hi ‘na, mae’n cwrdd â’r bardd di-nod, Moelwyn, ac mae’r ddau yn cael eu trawsnewid am byth...

Maes o Law
gan Gruffydd Ywain
Mae’n ddiwrnod y cadeirio yn yr Eisteddfod ac mae trefnwyr y Brifwyl wrth eu boddau gyda llwyddiannau’r wythnos. Ond gyda bardd newydd i’w gadeirio a gwestai arbennig iawn ar y ffordd i’r Maes, mae pethau’n
dechrau mynd ar chwâl...

Ffrindiau’r Ysgol
gan Mari Elen Jones
Yn dilyn cyfarfod pwyllgor, mae grŵp o rhieni yn mynd yn sownd yn y neuadd ysgol. Ar ôl agor potel jin y raffl, mae tensiynau ymhlith y criw yn codi ac mae’r sefyllfa’n mynd yn fwy a fwy gwirion...

Cast a Chreadigol