Ail gyflwyniad clodwiw, roc a rôl o stori ryfeddol o Gymru.
Yn y 1970au, ar stryd ddinod yng Nghaerdydd, fe gychwynnodd chwyldro. Chwyldro a newidiodd y byd. Fe gychwynnodd y cyfan pan ddaeth Alan, dyn ifanc a anwyd gyda syndrom Down, yn rhan o fywyd y myfyriwr, Jim. Roedd Alan wedi byw yn Ysbyty Trelái fel preswylydd ers ei blentyndod. Y cyfan roedd Alan eisiau oedd byw mewn tŷ a bod yn rhan o fand. Roedd Jim am wneud gwahaniaeth yn y byd, ond ni wyddai sut. Ar y cyd â’u ffrindiau, fe aeth y pâr ar siwrne a drawsnewidiodd sut roedd pethau’n cael eu gwneud, sut roedd pobl yn cael eu trin a phwy oedd yn cael dweud wrthych sut i fyw eich bywyd. Dyma oedd dechrau diwedd gofal sefydliadol a chychwyn Byw â Chymorth.
Twymgalon, doniol a theimladwy, mae Housemates gan Tim Green yn dod â’r stori wir ryfeddol yma o Gaerdydd yn fyw ar y llwyfan. Wedi’i berfformio gan gast o actorion-cerddorion niwrowahanol a niwronodweddiadol, mae Housemates yn byrlymu gydag egni ac yn cyffwrdd â’r galon. Ymunwch â’r Housemates y gwanwyn hwn am noson allan wych.
This is a gloriously uplifting play, in a production that radiates warmth, wit and humanityThe Stage
a powerful piece of theatreGet The Chance
a totally complelling play from start to finishEntertainment South Wales
Gweld Mwy. Arbed Mwy.

Gweld mwy am lai
Crëwch eich pecyn eich hun o sioeau!
Prynwch 3+ sioe ac arbedwch 10%
Prynwch 5+ sioe ac arbedwch 15%

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!