How To Feed a Town

Past Production

See dates and times  

Cyfle i gamu i fyd miniog o graff bwyd, teulu a thlodi modern yn y ddrama hon, y mae trigolion Sir y Fflint wedi dylanwadu’n uniongyrchol arni.

Yma yng Ngwaun, rydyn ni i gyd yn ffynnu…

Yn ôl mewn tref nad oedd bob amser yn groesawgar, mae Leanne yn adeiladu bywyd i'w merch. Heb unrhyw syniad ble i ddechrau a'r dref gyfan yn gwylio, mae'n cychwyn ar siwrnai i deimlo'n llawn o'r diwedd a dysgu ystyr creu rhywbeth o ddim byd.

Wedi’i chreu gyda phobl Sir y Fflint, mae How to Feed a Town yn gyforiog o ddull “...diymdrech o hyderus…” (Fringe Buxton), “...barddonol…” (Fringe Caeredin) o adrodd straeon bob dydd Haywire. Byddwch yn barod am chwerthin, dagrau a chân hyd yn oed wrth iddyn nhw eich tywys chi i fyd miniog o graff bwyd, teulu a thlodi modern.