Looking For Me Friend: The Music of Victoria Wood

See dates and times  

5 Stars

Everything Theatre

“The most feel-good show in town”

Sioe sy’n lledaenu hiraeth melys a chwerthin ledled y DU ac sydd wedi cael sêl bendith ffrindiau ysgol a chydweithwyr Victoria ei hun. Yn cynnwys seren rhaglen ‘All Together Now’ ar BBC1, Paulus The Cabaret Geek “King of Cabaret” (The Stage) gyda Michael Roulston (Fascinating Aïda) ar y piano, mae'n noson o lawenydd pur yn llawn hoff ganeuon Victoria, gan gynnwys yr eiconig ‘Ballad of Barry & Freda’ (Let's Do It) a’r clasur ‘It Would Never Have Worked’.

Mae'r sioe yma ar gyfer cefnogwyr Victoria a rhai sydd eto i'w darganfod, i ddod at ei gilydd a mwynhau ei dewiniaeth syfrdanol gyda geiriau. Wrth adrodd stori Victoria, mae Paulus yn datgelu ei stori ei hun. Stori y mae posib uniaethu â hi am blentyndod yn y 1970au a beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i ddod o hyd i'ch llwyth. Felly, parwch eich stiletos gyda maneg bopty, sipiwch eich ffrog goctel ac archebwch eich tocyn!

Adolygiadau

  • 4 Stars

    Poignancy and heart.
    The Scotsman
  • 0 Stars

    Vic would have loved this.
    Sue Devaney, Dinnerladies
  • 0 Stars

    We loved it!
    Fascinating Aïda