Menyw â gwallt hir, yn gwisgo gwisg ddu, yn sefyll yn yr awyr agored yn dal gitâr acwstig ar ei hysgwydd.

Meinir Gwilym

See dates and times  

Gyda gyrfa yn rhychwantu mwy nag 20 mlynedd mae gan ganeuon gwir a gonest Meinir Gwilym apêl fythol boblogaidd ac mae ei pherfformiadau byw bob amser yn llesol i’r enaid ac yn cyrraedd y galon.

Pan ofynnir iddi ddisgrifio ei cherddoriaeth, mae Meinir yn gofyn i'r gwrandäwr ei disgrifio. ‘Rydw i’n ganwr-gyfansoddwr; rydw i jyst yn defnyddio'r ysbrydoliaeth sydd wedi’i roi i mi i greu. Dydw i ddim wir yn artist ‘genre’.

Mae ei CD diweddaraf, Caneuon Tyn yr Hendy (2023), wedi cael cryn ganmoliaeth gan y beirniaid, ac mae’n ymddangos ei bod wedi datblygu rhyw fath o gwlt o ddilynwyr, ymhlith yr hen a’r ifanc fel ei gilydd.