Mae ein Pantomeim Roc a Rôl chwedlonol ni’n dychwelyd i’n prif theatr ar ei newydd wedd yn llawn o’r caneuon roc, pop a soul mwyaf, gwisgoedd gwych, ffrogiau ffrils, jôcs un-lein hynod ddoniol, digonedd o ynnau dŵr ac, wrth gwrs, eich hoff bypedau panto!
Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur pantomeim arobryn, Christian Patterson (Sleeping Beauty, Robin Hood, Beauty & The Beast) – gwnewch yn siŵr eich bod chi’n bachu’ch tocynnau ar gyfer digwyddiad Nadoligaidd y tymor!
Cast
Joe Butcher
Freddie the FoxImad Eldeen
Hari ParryPhylip Harries
Gwladys GooseAlice McKenna
Billie EyelashRyan Owen
Glennie GooseSteve Simmonds
Lord Larry ParryChioma Uma
CarrieGeorgina White
Suella De RhylDan Bottomley
BarryCelia Cruwys-Finnigan
Tîm Creadigol
Awdur - Christian Patterson
Cyfarwyddwr - Daniel Lloyd
Cynllunydd Set a Gwisgoedd: Adrian Gee
Coreograffydd: Jess Williams
Cyfarwyddwr Cerdd: Tayo Akinbode
Cynllunydd Goleuo: Johanna Town
Cynllunydd Sain: Ian Barnard
Cyfarwyddwr Castio: Jenkins McShane Casting CDG
Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Ellie Rose
Rheolwr Llwyfan y Cwmni: Alec Reece
Dirprwy Reolwr Llwyfan: Edward Salt
Rheolwr Llwyfan Cynorthwyol: Emma Hardwick
Agor oriel o luniau
Cwestiynau Cyffredin
• Ble bydd y sioe yn cael ei pherfformio? Bydd y sioe yn cael ei pherfformio yn ein hawditoriwm prif dŷ newydd sbon, wedi'i adnewyddu a'i ailddatblygu - gyda seddi newydd sbon, carpedi newydd a chynllun wedi'i addasu ychydig (i'w wneud yn well nag o'r blaen!).
• A yw hynny'n golygu y bydd adeilad llawn y theatr ar agor ar gyfer y Nadolig? Na. Rydym bob amser wedi cynllunio i ailagor yr adeilad llawn yn raddol yn 2025 . Byddwn yn rhannu panto yn y prif dŷ y Nadolig hwn ac yna bydd yr adeilad yn cael ei ailagor yn llawn erbyn canol 2025. Mae hynny’n golygu (yn debyg i Robin Hood), y byddwch chi’n gwylio’r sioe yn ein prif dŷ ond bydd y cyntedd, y bar a’r toiledau (am y tro olaf) yn ein cyfleusterau dros dro wrth ymyl y theatr.
• Oes raid i ysgolion dalu'r swm llawn ymlaen llaw?
Nac oes. Byddwn yn cymryd blaendal ar gyfer eich archeb gyda'r gweddill yn ddyledus yn yr hydref. Cofiwch bod y sioeau i ysgolion yn gwerthu allan yn gyflym.
• Oes gostyngiadau i grwpiau?
Oes. Rydym yn cynnig gostyngiad bychan i grwpiau o 20+ ar gyfer y sioe yma.
• Ar gyfer pwy mae'r sioe yn addas?
Yn gyffredinol byddem yn dweud 5+ oed.
• Ydi'r sioe yn cynnwys effeithiau strôb?
Bydd y sioe yn cynnwys effeithiau strôb a goleuadau’n fflachio.
• A fydd perfformiadau o'r sioe gydag iaith arwyddion, sain ddisgrifiad, capsiynau a pherfformiadau hamddenol?
Bydd, bydd y dyddiadau ar gyfer y rhain yn cael eu cyhoeddi pan fydd y sioe ar werth.
Adolygiadau
Adventures In Theatreland
- Theatre Reviews North
Fairy Powered Productions
- ...truly spectacular.The Leader
North West End
The Reviews Hub
Get The Chance
The Stage