Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn dychwelyd i Theatr Clwyd yr hydref hwn mewn noson yn cynnwys chwedloniaeth Gymreig, cerflunwaith syfrdanol a ffefryn disglair y gynulleidfa.
Yn ôl yn un o’i hoff leoliadau, bydd CDCCymru yn rhannu tri pherfformiad gwahanol o Gymru a’r Byd.
Cewch eich hudo gan Waltz Marcos Morau, a swynodd gynulleidfaoedd ledled Ewrop yn 2024. Mae creaduriaid disglair yn symud ar draws tirlun gwyn llwm yn chwim a chywir, mor berffaith gyda’i gilydd fel ei fod yn ymddangos yn arallfydol. Dyma antur ffuglen wyddonol i anhrefn, trefn a rheolaeth, sy’n cael ei galw'n 'hollol gymhellol' gan y Times.
Cewch eich ysbrydoli gan y cydweithio unigryw rhwng yr artist Cecile Johnson Soliz a’r ddawnswraig Faye Tan, lle mae’r gwisgoedd a grëwyd a’r cerfluniau papur yn serennu ochr yn ochr â symudiad cynnes, ysbrydol sy’n archwilio pwysau ac amser.
I gloi, beth am ddianc i fryniau rhyfeddol Cymru mewn gwaith newydd gan Osian Meilir, sydd wedi ei ysbrydoli gan straeon a chymeriadau o chwedloniaeth Gymreig.
utterly compellingThe Times
Fascinating, intense and compellingThe Observer
Stunning fluiditySeeing Dance
Agor oriel o luniau



Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!