Pride & Prejudice.

Kate Hamil.

See dates and times  

Comedi ramantus wefreiddiol.

Daw stori garu fwyaf eiconig Jane Austen yn fyw yn gwbl drawiadol ar y llwyfan.

Pan mae sôn am briodi, mae Lizzy Bennet ystyfnig yn benderfynol o wrthsefyll pwysau a disgwyliadau cynyddol cymdeithas. Ond fedr hi ymwrthod â chariad, yn enwedig pan mae Mr Darcy eithriadol ddifyr rownd pob cornel?!

Gyda hiwmor miniog a deialog ddisglair, mae’r addasiad llwyfan ffraeth yma’n dod â’r stori glasurol am gariad, camddealltwriaeth ac ail gyfle yn fyw (gyda digonedd o gerddoriaeth a dawnsio). Cyfle i chi ymgolli ym myd partïon a charwriaeth y cyfnod wrth i galonnau rasio, tafodau lacio a nwydau danio yng nghefn gwlad Lloegr.

Darganfyddwch y pethau abswrd a gwefreiddiol sy’n rhan o ddod o hyd i’ch cymar perffaith (neu amherffaith) mewn bywyd, gyda’r ail-gread bywiog yma o nofel hyfryd Austen gan gast mawr o actorion hynod dalentog. Ymunwch â ni ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y DU, wedi’i addasu gan y dramodydd arobryn Kate Hamill a’i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig yr Octagon Theatre yn Bolton, Lotte Wakeham.

Dewch i weld y sioe yma os ydych chi’n mwynhau Bridgerton neu Downton Abbey.


Gweld Mwy. Arbed Mwy.

Gweld mwy am lai

Crëwch eich pecyn eich hun o sioeau!

Prynwch 3+ sioe ac arbedwch 10%
Prynwch 5+
sioe ac arbedwch 15%


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!


Cast a Chreadigol

  • Jane Austen

    Writer
  • Kate Hamill

    Playwright
  • Lotte Wakeham