Gwneud y byd yn lle hapusach
Mae Theatr Clwyd a Chyngor Sir y Fflint yn cydweithio i greu bocs o lawenydd i blant agored i niwed yng Ngogledd Cymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. Rydym yn gofyn i bobl gyfrannu bocsys esgidiau’n llawn eitemau lliwgar a hwyliog i wneud y byd yn lle gwell i bobl ifanc.
“We have been overwhelmed by the amazing response from our community may people brought more than one box, Buckley Town Football club organised collections and the craft, creativity and quality of what we received was heart-warming.”Gwennan Mair | Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol
Sut mae dechrau arni?
- Rhaid i chi gael bocs esgidiau(neu focs maint esgidiau!) – rhaid iddo gael caead (rhag i bethau syrthio allan) a gall fod yn hyfryd a phersonol neuddim ond neis a syml.
- Ychwanegwch eich neges o gefnogaeth neu ysbrydoliaeth.
- Pethau y gallech eu hychwanegu:
- Danteithion a/neu fyrbrydau iach – melysion, creision, siocled, resins, bariau ffrwythau ac ati ... (Cofiwch wneud yn siŵr bod y dyddiad yn addas ar bopeth a’u bod yn eu pecynnau gwreiddiol!)
- Teganau a gemau – Gallant fod yn newydd neu’n ail-law (ond rhaid i bob darn fod yn y bocs!)
- Celf a chrefft
- Llyfrau, cylchgronau, comics a DVDs
- Hadau a photiau planhigion (bychain)
- Ychwanegwch label oedran at y bocs (fel ei fod yn mynd i blentyn oedran cywir!)
- Peidiwch â selio’r bocs fel ein bod yn gallu ei wirio un waith cyn ei anfon allan!
Agor oriel o luniau
Sut mae gwneud yn siŵr bod y bocs yn ddiogel?
- Golchwch eich dwylo cyn rhoi eich bocs esgidiau at ei gilydd
- Glanhewch yr eitemau os yw hynny’n briodol gyda hancesi gwlyb gwrth-facteria os oes gennych chi rai ar gael
- Ar ôl i chi ei greu peidiwch â’i gyffwrdd nes bod arnoch angen ei ddosbarthu!
Ble ddylwn i fynd â’r bocs?
- Bydd rhaid i chi archebu amser dosbarthu
- Y dyddiad casglu yw dydd Iau 2 Gorffennaf yn Theatr Clwyd
- Bydd gwirfoddolwyr yno i’ch helpu chi a bydd cyfarwyddiadau llym a chadw pellter cymdeithasol pan rydych chi yma.
Beth fydd yn digwydd i fy mocs esgidiau?
- Bydd eich bocs esgidiau’n cael ei gadw am isafswm o 72 awr (i wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel) ac wedyn bydd yn cael ei ddosbarthu i blentyn agored i niwed o oedran priodol. Bydd yn gwneud byd o wahaniaeth iddo yn ystod y cyfnod heriol yma.