Romeo + Juliet.

William Shakespeare

See dates and times  

Dau deulu, dwy iaith a phâr o gariadon ifanc sy’n barod i fentro popeth.

“Fe syrthiodd iaith dy galon ar fy nghlyw, yn ddiarwybod im”

Mae angerdd gwefreiddiol yn arwain at anrhefn llwyr, wrth i gymdeithas sydd ar y dibyn wrthdaro a newid trywydd cariad am byth.

Dyma olwg newydd ar y stori garu trasig enwog, sy’n gosod y ffrae ffyrnig rhwng y teuluoedd Montague a Capulet yng nghymdeithas dwyieithog Cymru.

Bydd y cynhyrchiad arloesol hwn, dan gyfarwyddyd Steffan Donnelly, yn plethu’r Gymraeg a’r Saesneg, gan archwilio’r hunaniaeth Gymreig a chynnig safbwynt newydd ar ddrama anfarwol Shakespeare.


Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?

Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!

Cliciwch Yma
!