Enillydd Gwobr Olivier - Sioe Adloniant a Theulu Orau 2016
Comedi gerddorol fyrfyfyr ar ei gorau – yn syth o’r West End ac ar ei ffordd nawr i Theatr Clwyd!
Gyda phymtheng mlynedd fel ffenomen o bwys yng Ngŵyl Fringe Caeredin, cyfres ar BBC Radio 4, rhediad a enillodd fri’r beirniaid yn y West End a Gwobr Olivier, mae The Showstoppers wedi gwefreiddio cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u cyfuniad dyfeisgar o gomedi, theatr gerddorol a gwaith byrfyfyr.
Mae comedi gerddorol newydd sbon yn cael ei chreu o’r newydd ym mhob perfformiad o’r sioe arobryn yma wrth i awgrymiadau’r gynulleidfa gael eu trawsnewid ar y pryd yn gynhyrchiad llawn canu a dawnsio gyda chanlyniadau eithriadol ddoniol.
Mae'r perfformwyr anhygoel yma’n siŵr o greu argraff wrth iddyn nhw greu sioeau sy'n llawn drama, dawnsio disglair ac alawon bachog - ac mae'r cyfan yn cael ei greu’n fyrfyfyr!
Felly os ydych chi eisiau gweld Hamilton mewn ysbyty, Sondheim yn y Sahara neu Les Misérables ar Foel Famau, rydych chi’n awgrymu hynny a bydd The Showstoppers yn canu!
Achingly funny…worth seeing again and again.Time Out
If this is what improv can do, you wonder why anyone bothers writing anything down.The Times
So polished, it defies belief.Daily Telegraph
Agor oriel o luniau




See this if you like:
- Slapstick Comedy: The Play That Goes Wrong, Fawlty Towers
- Musicals:Six, Blood Brothers
- Improvised & Stand Up Comedy: Comedy Clubs, Whose Line Is It Anyway?, Austentatious
Find out more:
Links to external sites.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!