Casgliad gwyllt o straeon go iawn o dref ddychmygol gan y storïwr Shôn Dale Jones.
Casgliad i gynhesu’r galon o straeon llawn rhyfeddod a chwilfrydedd – straeon doniol, teimladwy, real a hudolus am bobl yn byw, yn caru ac yn gwneud eu gorau glas i gael y gorau o fywyd. Yn deyrnged hoffus i blentyndod, ac yn llawn diolchgarwch a chynhesrwydd, mae Stories From An Invisible Town yn cyflwyno byd hanner real, hanner dychmygol wedi'i leoli yn nhref Llangefni ar Ynys Môn wych.
Mae’r we hudolus yma o straeon diddiwedd yn dathlu’r pethau syml sy’n creu bywyd go iawn, gan symud o'r epig i'r diddrwg-didda, a chyffwrdd â phopeth arall yn y canol.

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!