Ezo’s Jazz Violin

Sinfonia Cymru

See dates and times  

Bluegrass Bach and Mediterranean Myths

Cerddoriaeth heb reolau: mae’r cyngerdd hwn, a gyflwynir gan fiolinydd o Sinfonia Cymru, Ezo Dem Sarici, yn dathlu ei thras Twrcaidd a’i magwraeth yn seiniau cerddoriaeth jazz, gan dynnu ar arddulliau gwahanol o Bach i gerddoriaeth werin Twrci, ac o jazz i bluegrass. Cyfuniad llawen o gerddoriaeth sy’n pontio gwahaniaethau diwylliannol a cherddorol, yn cael ei chyflwyno gan fand annisgwyl o chwech o gerddorion ifanc ym meysydd cerddoriaeth glasurol a jazz.

Dewch draw i gael eich diddanu gan straeon Ezo a’i rhythmau bywiog.