Archebu i aeolodau o 16 Chwe.
Archebu i’r cyhoedd o 3 Maw.
Dyma 'crowning glory' Broadway, y West End a thu hwnt, mae’r sioe gerdd hynod lwyddiannus SIX yn dychwelyd i Theatr Clwyd yn dilyn ei rhediad blaenorol lle gwerthwyd pob tocyn!
Enillydd o dros 35 o wobrau rhyngwladol gan gynnwys Gwobr Tony am y ‘Sgôr Wreiddiol Orau’ a’r ‘Dyluniad Gwisg Orau’, enillydd dwbl Gwobr Whatsonstage am ‘Best West End Show’ ac albwm sydd wedi ennill Disg Aur. Mae gan y sioe 'neges anhygoel o gryf a phwerus' (The Australian) ac yn 'adloniant pur' (New York Times).
O Frenhines y Tuduriaid i Dywysogesau Pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn mynd at y meic i adrodd eu hanesion, gan ailgymysgu pum can mlynedd o dorcalon hanesyddol mewn dathliad 80 munud o bŵer merched yr 21ain ganrif. Efallai bod gan y Frenhines hyn lewys gwyrdd ond mae eu minlliw yn goch gwrthryfelgar.
Meddwl eich bod chi'n gwybod y rhigwm, meddyliwch eto...
Divorced. Beheaded. LIVE!

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!