The Girl on the Train

See dates and times  

4 Stars

WhatsOnStage

Mae Rachel Watson yn dyheu am fywyd gwahanol.

Ei hunig ddihangfa yw'r cwpwl perffaith y mae hi'n gwylio drwy ffenest y trên bob dydd, cwpl hapus a chariadus. Neu felly mae'n ymddangos. Pan ddaw Rachel i wybod bod y fenyw y mae hi wedi bod yn ei gwylio’n gyfrinachol wedi diflannu’n sydyn, daw hi'n dyst a hyd yn oed rhywun dan amheuaeth mewn dirgelwch gwefreiddiol lle bydd yn wynebu datgeliadau mwy nag y gallai fod wedi’i ragweld.

Wedi’i haddasu o nofel Paula Hawkins – ffenomen ryngwladol sy’n gwerthu dros ugain miliwn o gopïau ledled y byd – bydd y ddrama newydd afaelgar hon yn eich cadw i ddyfalu tan yr eiliad olaf. Bydd Laura Whitmore yn serennu yn y cynhyrchiad newydd sbon hwn, yn dilyn taith gyntaf y ddrama yn y DU lle gwerthwyd pob tocyn.


Mae Laura Whitmore yn actores, cyflwynydd teledu a darlledwr radio, sy'n adnabyddus am ei rolau yn cyflwyno Love Island, Celebrity Juice, I'm a Celebrity Get Me Out Of Here Now, MTV a llawer mwy, yn ogystal â'i chyfres BBC Radio 5 Live ei hun, The Laura Whitmore Show. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y West End yn 2:22 A Ghost Story, ac ar hyn o bryd mae hi'n cynnal Podlediad BBC, Murder They Wrote ochr yn ochr ag Iain Stirling. Mae hi hefyd yn Gyflwynydd a Chynhyrchydd Cyswllt ei chyfres ddogfen hynod lwyddiannus ar ITV Laura Whitmore Investigates.