Dyddiadau wedi'u hychwanegu ar gyfer 2026!
Rydym yn gyffrous i gyhoeddi y bydd Uncanny yn dychwelyd i Theatr Clwyd ar y 3-4 o Chwefror 2026, ac yn mynd ar werth yn fuan:
Gwe 11 Ebrill – Blaenoriaeth Archebu Aelodau Theatr clwyd
Llun 14 Ebrill – Rhestr Bostio Uncanny
Dydd Mercher 16 Ebrill – Tocynnau i'r cyhoedd ar werth
Cliciwch yma i sicrhau eich tocynnau drwy ein gwefan neu ffoniwch ein swyddfa docynnau ar (01352) 344101
Dydi hon DDIM yn sioe bodlediad arferol.
Dyma adrodd straeon ac ymchwiliad paranormal ar ei orau.
Mae Danny Robins a'i dîm o arbenigwyr yn ôl gyda sioe newydd sbon - gyda straeon newydd am fywyd go iawn sy’n wefreiddiol ac yn frawychus, a chofnodion tystion a fydd yn gwneud i chi ymgolli’n llwyr.
Bydd Danny yn dod â straeon am feddyliau cythryblus, drychiolaethau, poltergeists, UFOs a digwyddiadau sy'n herio esboniad rhesymegol yn fyw. Bydd yn eu trafod gyda help yr arbenigwyr Ciarán O’Keeffe ac Evelyn Hollow a mewnbwn gennych chi, y gynulleidfa, wrth i chi gael cyfle i rannu eich damcaniaethau a'ch profiadau eich hun.
Fel bob amser, os ydych chi’n aelod o’r Tîm Drwgdybus neu’r Tîm Credu’n Llwyr, neu rywle yn y canol, mae croeso i bawb.
Felly... oes gennychy chi ofn y tywyllwch?
Neu ydych chi'n ddigon dewr i geisio datrys y dirgelion iasoer, cyfareddol yma?
The audio king of true-life scary talesThe Observer
A latter day Alfred HitchcockRadio Times

Wedi archebu tocyn sioe ond heb archebu eich bwrdd?
Archebwch fwrdd ar gyfer swper cynnar gyda'r nos i gwblhau eich profiad!
Cliciwch Yma!