Sioe Gerdd
Maw 24 Medi - Maw 1 Gorffennaf 25
Sioe Gerdd – GRWP NEWYDD!
Ymunwch â grŵp Sioe Gerdd newydd sbon Theatr Clwyd!
Dewch draw i ganu, dawnsio ac actio, wrth i ni archwilio rhai o'r sioeau cerdd gorau erioed. O Heathers i Hamilton, bydd rhywbeth at ddant pawb.
Byddwn yn archwilio actio-drwy-gân, coreograffi, canu ac yna nifer o dechnegau amlbwrpas sydd eu hangen o fewn theatr gerdd.
Addas i unrhyw un sydd â diddordeb mewn sioeau cerdd!
Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond parodrwydd i roi cynnig arni.
Mae'r grŵp hwn ar gyfer 13-16 oed
Pryd mae’r grŵp hwn yn cael ei gynnal?
Mae'r grŵp hwn yn rhedeg ar y diwrnod a nodir isod.
Tymor yr Hydref: Dydd Llun 23 Medi – Sad 21 Rhagfyr 2024
Hanner Tymor: 28 Hydref – 2 Tachwedd (Dim sesiynau)
Tymor y Gwanwyn: Llun 20 Ionawr – Sad 12 Ebrill 2025
Hanner Tymor: 24 Chwefror – 8 Mawrth (Dim sesiynau)
Tymor yr Haf: Dydd Mawrth 6 Mai – Sad 5 Gorffennaf 2025
Hanner Tymor: 26 Mai 2024 – 31 Mai 2025
Faint mae’n gostio?
Nid oes gennym broses ymgeisio fanwl am fwrsariaethau gan ein bod yn ymddiried ynoch i dalu’r hyn y gallwch ei fforddio. Diolch i'ch gonestrwydd gall y rhai sydd angen ychydig o help gael y gostyngiad sydd ei angen arnynt i gymryd rhan. |
Archebu
I archebu, cysylltwch â'r swyddfa docynnau ar 01352 344101
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch yna mae ein tîm yma i'ch cefnogi.
E-bost: box.office@theatrclwyd.com
Ffôn: 01352 344101