Celfyddydau ar ein llwyfannau
Fel theatr gynhyrchu fwyaf Cymru, rydym yn gwneud ein gwaith ein hunain. Rydym yn un o ddim ond pedair theatr yn y DU i fod â’n holl adrannau creu ar y safle – ni a'r National Theatre, yr RSC a’r Birmingham Rep. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu datblygu sioe o hedyn dychymyg awdur. Rydym hefyd yn gwybod pa mor bwysig yw rhannu'r sgiliau hyn a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol fel bod creu theatr newydd a chyffrous yn gallu parhau.

Creu Cynyrchiadau
Creu Cynyrchiadau O'r setiau rydych yn eu gweld ar ein llwyfannau i'r gwisgoedd mae ein hactorion yn eu gwisgo, gall ein timau eu gwneud nhw i gyd. Mae'r rhain yn sgiliau arbenigol ac rydym yn hynod falch eu bod i'w gweld yn ein cornel ni o Ogledd Cymru. Mae ein gwaith wedi cael ei gydnabod gan wobrau fel Gwobr Olivier a Gwobr UK Theatre yn ogystal â'r miloedd o bobl sy'n dod i weld ein gwaith ni bob blwyddyn.Datblygu talentau’r dyfodol
Mae dyfodol theatr a pherfformiadau byw yn dibynnu ar gefnogi talent newydd sy'n dod i'r amlwg. Mae ein rhaglenni datblygu artistiaid wedi'u cynllunio i roi cefnogaeth a gofod i’r genhedlaeth nesaf ddatblygu ei chrefft. O'n Cynllun i Gyfarwyddwyr Cynorthwyol i'n prentisiaid gefn llwyfan, rydym yn cefnogi pob maes o greu theatr. Yn ystod y cyfyngiadau symud, pan oedd ein theatrau'n wag, roedd George, myfyriwr a fydd yn ymuno â'r Ballet Brenhinol yn fuan, yn ymarfer ar ein llwyfannau ni gan nad oedd ganddo le i ddawnsio gartref.

Cynyrchiadau Cymunedol
Gyda chynhyrchiad awyr agored mawr a chwmni o 256 o bobl, fe wnaethom ni hawlio strydoedd yr Wyddgrug i ailadrodd y stori hon am ormesu’r Cymry.
O reolwyr llwyfan ac awduron i grwpiau gwau a cherddwyr ar stiltiau, roedd rôl i bawb gymryd rhan wrth i ni ddod at ein gilydd i adrodd y stori bwysig yma.
Mae rhodd i Theatr Clwyd yn ein helpu ni i barhau i roi’r celfyddydau ar ein llwyfannau ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn cael mynediad i theatr o safon byd.
Helpwch ni i barhau â’n gwaith yn ein cymuned!
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rhoi celfyddydau ar ein llwyfannau, cysylltwch â development.trust@theatrclwyd.com