Apêl Help Llaw
Mae gennym ni newyddion anhygoel
Diolch yn fawr, rydych chi wedi cyrraedd y garreg filltir. 50 o fwrsarïau ac mae eich haelioni chi wedi golygu bod mwy o weithwyr llawrydd creadigol wedi cael cefnogaeth yn ystod y cyfnod yma.
Mae Apêl Help Llaw wedi cau nawr ond os hoffech chi gefnogi gweithwyr llawrydd creadigol o hyd, mae Karen yn mentro ar her anhygoel drwy ddringo i fyny Moel Famau bob dydd ym mis Tachwedd. Mwy o wybodaeth am sut gallwch chi ei chefnogi hi yma.
Rhoi help llaw i weithwyr llawrydd y diwydiant creadigol.
Mae gweithwyr llawrydd yn hanfodol i’r diwydiannau creadigol. Bob blwyddyn rydyn ni’n gweithio gyda 300 o weithwyr theatr llawrydd – o gyfarwyddwr cerdd ein pantomeim roc a rôl i bob actor sy’n ymddangos ar ein llwyfannau ni. Pan mae theatrau’n cau, mae incwm y gweithwyr llawrydd hyn yn diflannu. Yn sydyn iawn, roedd eu dyddiaduron yn wag.
Fe wnaethom ni greu 50 o ficro fwrsarïau ar gyfer gweithwyr llawrydd y theatr ledled Cymru a’r DU oedd angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod y cyfnod yma. Cawsom lond gwlad o geisiadau ac roedden yn teimlo’n ddigalon o weld nifer y bobl dalentog oedd yn ystyried gadael y proffesiwn am nad oedd ganddynt unrhyw obaith ar gyfer y dyfodol.
Mae’r micro fwrsarïau yn £560 yr un ond i’r ymgeiswyr llwyddiannus maen nhw’n werth mwy fyth – maen nhw’n cynnwys mynediad at adnoddau, sgiliau a phrofiad – boed yn ofod mewn ystafell ymarfer, amser i ddatblygu syniadau gyda’n Cyfarwyddwr Artistig, neu hyd yn oed help gyda chael eu sioe nesaf yn barod i deithio.
Mae arnom ni angen eich help chi i helpu gweithwyr llawrydd i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau - creu’r theatr rydych chi'n ei charu a'i haddoli.
Fedrwch chi helpu i roi gobaith a chefnogaeth i fwy o bobl yn ystod y cyfnod anodd yma?
I Rhian*, sy’n awdur, mae'r sefyllfa wedi bod yn anodd. Iddi hi a'i phartner, sydd hefyd yn gweithio yn y diwydiant, cafodd unrhyw waith ar y gorwel ei ganslo dros nos, a chanslwyd eu bywoliaeth hefyd.
Ym mis Mawrth, cafodd y ddau Covid, gan arwain at adferiad hir, araf. Gan eu bod wedi gwarchod eu hunain er mwyn diogelu eu teulu bregus, heb allu cael gwaith ychwanegol oherwydd hynny, mae’r gost emosiynol, gorfforol ac ariannol wedi cael effaith fawr.
Pan gafodd Rhian ei micro fwrsari, fe ddywedodd wrthym ni:
“fe gyrhaeddodd jyst mewn pryd i'n teulu ni – fe fydd yr arian yn helpu i dynnu'r pwysau oddi arnom ni, yn rhoi ennyd i ni anadlu, ailfeddwl ac ailaddasu a, gobeithio, cymryd y camau cyntaf hynny tuag at greu theatr eto.”
Diolch yn fawr
Diolch o galon i Ymddiriedolaeth Carne am eu cefnogaeth ac am sicrhau ein bod yn gallu cynnig mwy o ficro fwrsarïau i'r rhai sydd eu hangen ar hyn o bryd.
*mae’r enwau wedi cael eu newid er mwyn cadw pawb yn anhysbys.