Cyfleoedd i Noddi


Mae noddi cynhyrchiad Theatr Clwyd neu dymor o sioeau yn ffordd effeithiol o ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau theatr i hyrwyddo eich busnes. Gallwn gynnig pecynnau nawdd pwrpasol gyda manteision sy'n gweithio i chi. Gallai’r buddion gynnwys tocynnau am ddim, cyfleoedd brandio, cyfleoedd lletygarwch o ansawdd uchel a llawer mwy.


Byddwn yn gweithio'n agos gyda chi i sicrhau bod eich nawdd yn llwyddiannus.

Cyfleoedd Cyfredol

Gŵyl Gomedi Wrecsam
13-15 Medi

Mae Gŵyl Gomedi Wrecsam yn cael ei chynnal yn ein chwaer-leoliad, Neuadd William Aston, ac mae’n fwy ac yn well nag erioed. Gyda 33 act dros 3 diwrnod gan gynnwys 3 noson gala ysblennydd, mae hwn yn gyfle heb ei ail.

Mae'r prif berfformwyr yn cynnwys Paul Sinha, Daniel Kitson, Lou Sanders, Gary Delaney a mwy.

Pecynnau nawdd

Mwy o wybodaeth


Cysylltwch â'n Rheolwr Datblygu Corfforaethol os hoffech gael gwybod mwy.

janine.dwan@theatrclwyd.com