Cydlynydd Cyfleusterau
Disgrifiad Swydd

Cynllunio a chyflawni’r Strategaethau Cynnal a Chadw, Mecanyddol a Thrydanol y cytunwyd arnynt ar gyfer holl eiddo Theatr Clwyd, gan ddarparu amgylchedd dymunol, diogel, cydymffurfiol a chroesawgar i gwsmeriaid, aelodau’r tîm ac ymwelwyr.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu Rheolaeth linell i'r Cynorthwywyr Gwasanaethau Adeiladau a'r Timau Cadw Tŷ gan gynnwys rheoli eu hamserlen, tasgau dyddiol a chyflawni'r holl dasgau sy'n ymwneud ag Adnoddau Dynol.
- Sicrhau'r contractau caffael ar gyfer cynnal a chadw, a gwasanaethu gan sicrhau gwaith o safon a gwerth am arian.
- Bod yn gyfrifol am gynnal a chadw cyffredinol yr eiddo, gan gynnwys gwresogi, goleuo, plymio ac ati.
- Sicrhau bod y rhaglenni BMS (System rheoli adeiladau) sy’n rheoli’r awyru, yr aerdymheru, y gwresogi, y plymio ac ati yn cael eu rhaglennu bob wythnos yn dibynnu ar y defnydd o'r adeilad.
- Bod yn gyfrifol am a gweithio gyda chontractwyr allanol ar gyfer darparu gwasanaethau arbenigol.
- Gwirio bod y dodrefn, yr offer a'r peiriannau ym mhob rhan o'r adeilad yn addas i'r diben a chymryd yr holl gamau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau bod yr agweddau hyn yn bodloni gofynion y rheoliadau pryd bynnag y bo angen.
- Bod yn un o ddeiliaid allweddi'r safle.
- Gweithredu fel galwad gyntaf ar gyfer achosion brys y tu allan i oriau arferol a larymau tresmaswyr.
- Bod yn ystyriol o brofiad yr ymwelwyr sydd ag anghenion hygyrch wrth fynd i'r afael â thasgau, a chadw hygyrchedd yn flaenllaw yn yr holl waith.
- Cymryd rhan weithredol yn y gofynion iechyd a diogelwch gan gynnwys ysgrifennu datganiadau dull a chwblhau gwaith papur iechyd a diogelwch cysylltiedig arall gan gynnwys gweithio ar uchder, trwyddedau gwaith poeth a sicrhau bod cemegau COSHH yn cael eu cofrestru a'u storio'n gywir.
- Sicrhau bod y gweithle’n cadw at ofynion iechyd a diogelwch a chynnal safon ardderchog o gadw tŷ.
Y Person
- Profiad o reoli gweithrediadau cyfleusterau, cynnal a chadw a chontractau cyflenwyr allanol
- Y gallu i arwain tîm bychan, ymroddedig
- Y gallu i flaenoriaethu tasgau a dirprwyo cyfrifoldebau i eraill fel sy'n briodol.
- Gallu clir i nodi a mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag adeiladu mewn modd amserol ac effeithlon.
- Sylw cadarn i fanylder i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a safonau ansawdd.
- Profiad o reoli costau a dod o hyd i gyflenwadau a chontractwyr gorau o ran gwerth.
- Ymrwymiad cadarn i ddiogelwch yn y gweithle a chydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar da.
- Sgiliau ymarferol mewn rheoli adeiladau a phrofiad o reoli eiddo.
- Sgiliau trefnu a gweinyddol rhagorol.
- Sgiliau TG rhagorol gan gynnwys gwybodaeth.
- Gwybodaeth glir am drefniadaeth a chefnogaeth TG.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
PLEASE NOTE: By clicking on this link, you will automatically be redirected to a new webpage, where you will find the full Job Description and you can complete an online application to be considered for this role.
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.