Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant
Disgrifiad Swydd
Pwrpas y Rôl
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn treulio 18 mis yn Theatr Clwyd, gan ennill sylfaen lawn a thrylwyr ym mhob agwedd ar greu theatr. Bydd yn gweithio ar bedwar i chwe chynhyrchiad gan Theatr Clwyd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar draws yr holl ystod o waith rydyn ni’n ei gynhyrchu. Bydd yn cael y cyfle i weithio ar gynyrchiadau yn theatrau Moondance a Weston, a phrosiectau eraill yn ystod y cynllun hyfforddi 18 mis. Bydd y cynyrchiadau hyn yn cynnwys y sioe gerdd Tick Tick Boom!, y ddrama Gymreig newydd The Red Rogue of Bala; ein pantomeim Roc a Rôl blynyddol ni a chynyrchiadau eraill sydd eto i'w cyhoeddi. Yn ogystal â gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig a’r Cyfarwyddwr Cyswllt, bydd yr Hyfforddai yn treulio wythnos (neu gyfatebol) gyda phob tîm yn Theatr Clwyd dros y 18 mis, gan sicrhau dealltwriaeth lawn a thrylwyr o bob agwedd ar greu, cynhyrchu a rhedeg darn o theatr. Daw’r Cynllun Hyfforddi i benllanw gyda’r Hyfforddai yn cyfarwyddo cynhyrchiad llawn o ddrama yn yr iaith o’i ddewis, a fydd yn rhedeg mewn gofod theatr neu mewn gofod a ddarganfyddir yn dilyn ei amser gyda ni. Penderfynir ar y cynhyrchiad ar y cyd rhwng y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant a Theatr Clwyd.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Yn cael ei oruchwylio gan y Cyfarwyddwr Cyswllt a’r arweinwyr Creadigol ar gynyrchiadau, bydd y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant yn gwneud y canlynol:
Fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar brosiectau penodol:
- Gweithio ochr yn ochr â'r cyfarwyddwr ar ddatblygu sgriptiau, castio a thrwy gydol y broses cyngynhyrchu
- Cefnogi'r cyfarwyddwr a'r tîm creadigol mewn ymarferion ac yn y sioeau ymlaen llaw, gan weithio gyda'r actorion os a phan fo angen, yn helpu gyda dysgu llinellau a gweithio ar olygfeydd neu ddilyniannau penodol
- Parhau i wylio a gwneud nodiadau ar y sioe yn ystod ei rhediad, gan drosglwyddo nodiadau i'r cwmni yn unol â chyngor y cyfarwyddwr
- Fel Hyfforddai yn yr adeilad:
- Gweithio ochr yn ochr â thimau creadigol profiadol sy’n cael eu harwain gan rai o brif gyfarwyddwyr y DU heddiw
- Profi’r ystod lawn o swyddi a chyfleoedd y mae gweithio o fewn cwmni theatr mewn adeilad yn eu darparu
- Ymuno â gweithgorau eraill y tu allan i'w prif arbenigedd i ddod yn aelod llawn o'r cwmni
Bydd y Cyfarwyddwr Dan Hyfforddiant yn sicrhau dealltwriaeth drylwyr hefyd o’r broses gynhyrchu a sut mae lleoliad cynhyrchu yn gweithredu drwy gael y cyfle i weithio mewn nifer o feysydd yn Theatr Clwyd fel yr amlinellir isod:
- Mynychu Cyfarfodydd Uwch Arweinyddiaeth amrywiol
- Mynychu cyfarfodydd Rhaglennu a Chynhyrchu
- Darllen sgriptiau a gweithio ar ddatblygu prosiectau
- Mynychu gweithdai wythnosol, ysgolion haf a gwaith cymunedol arall gyda'n tîm Ymgysylltu Creadigol
- Astudio creu gwisgoedd a chynnal a chadw sioeau gyda'n tîm Gwisgoedd ni
- Dysgu am adeiladu setiau, celf golygfeydd a phrops gyda'n timau Gweithdy, Celf Golygfeydd a Phrops ni
- Gweithio ar greu a gweithredu goleuadau a sain ar gyfer sioeau gyda'n timau LX a Sain ni
- Gweithio ochr yn ochr â'n tîm Llwyfan ni ar ffitiadau, symud sioe i mewn ac allan, gwaith criw a chynnal a chadw
- Gweithio gyda Rheolwyr Cynhyrchu a thimau Rheoli Llwyfan ar gynllunio tymor hir a sioeau
- Gweithio gyda’n tîm Profiad ni a thîm y Swyddfa Docynnau ar bob agwedd ar weithrediadau a digwyddiadau’r theatr
- Dysgu am farchnata a'r wasg gyda'n tîm mewnol ni a gyda'n Partner Cenedlaethol ar gyfer y Wasg
- Gweithio gyda'n tîm Cyfrannu ni ar godi arian, aelodaeth a digwyddiadau
- Gweithio gyda'n tîm Cynhyrchu a Rhaglennu ni ar sioeau sy’n cael eu datblygu, ymarferion a pherfformiad
Arall
- Unrhyw dasgau eraill y mae'r Cyfarwyddwr Cyswllt a'r Cyfarwyddwr Artistig yn gofyn yn rhesymol amdanynt
- Cynrychioli a hyrwyddo'r sefydliad yn gadarnhaol ar bob lefel
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad o gasglu ymchwil manwl a chofnodi canfyddiadau.
- Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i ymgymryd â phrosiect ymchwil a chofnodi.
- Profiad o weithio gyda phobl ar draws gwahanol gymunedau ac enw da am ddatblygu perthnasoedd gyda'r cyhoedd.
- Gwybodaeth am fyd y theatr a / neu hanes y theatr, a diddordeb ynddynt.
- Sylw i fanylder yn hanfodol.
- Y gallu i reoli baich gwaith prysur gyda nifer o flaenoriaethau.
- Wedi eich lleoli o fewn pellter cymudo i Theatr Clwyd.
- Rhaid gallu teithio, gyda thrwydded yrru lawn.
Dymunol
- Cymraeg ysgrifenedig a sgyrsiol.
- Profiad gyda phrosiectau sain
- Profiad clir o weithio o fewn y sector treftadaeth, gwybodaeth a / neu gyd-destun ymgysylltu cymunedol.
- Profiad blaenorol o weithio ar brosiect Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.