Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd
Disgrifiad Swydd
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Best-Images/1197439/Auditorium-from-wings_thin_fda14de543ae71c1e33489ce40f062a2.jpg)
Pwrpas y Rôl
Gan adrodd i’r Tîm Gweithredol, mae Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno Stiwdio Clwyd fel stiwdio genedlaethol i Gymru i ddatblygu a chefnogi gwneuthurwyr theatr proffesiynol ym mhob cam o’u gyrfa.
Bydd Stiwdio Clwyd yn lle i’n cymunedau creu theatr ni ddatblygu eu sgiliau, creu llwybrau i’r sector theatr ehangach, a mireinio eu crefft a’u chwarae. Bydd yn ofod cydweithredol sy’n gynhwysol, a bydd amser yn cael ei roi yn rhydd heb ddisgwyl dim yn ôl. Cyfarwyddwr Stiwdio Clwyd fydd yn gyfrifol am sefydlu’r stiwdio a chreu rhaglen wedi’i churadu yn seiliedig ar y sgyrsiau gyda’n cymunedau llawrydd am eu hanghenion a’r hyn maen nhw’n ei deimlo fyddai’n fwyaf defnyddiol o stiwdio ddatblygu i Gymru.
Mae prif dasgau’r rôl yn cynnwys arweinyddiaeth strategol, datblygiad a thwf, a rheolaeth weithredol gyda ffocws allweddol ar y canlynol:
- Arwain y gwaith o greu Stiwdio Clwyd o raglenni datblygu unigol i raglen wedi'i churadu sy'n cefnogi ein cymunedau llawrydd.
- Dylanwadu, trafod a chreu tîm cadarn gan fod gweithio mewn partneriaeth, a chynhyrchu incwm, yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen yn y dyfodol.
- Gweithredu fel llefarydd a llysgennad Stiwdio Clwyd, gan gynrychioli'r stiwdio ar lefel leol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
- Gyda'r Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu, creu hunaniaeth brand gadarn i Stiwdio Clwyd sy'n unigryw ond sydd hefyd yn cyd-fynd â gwaith Theatr Clwyd.
- Hyrwyddo a datblygu artistiaid a gwneuthurwyr theatr Cymreig ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
![](https://d236ott6dc2ku1.cloudfront.net/_imager/files/Best-Images/814038/George-The-Dancer-Dafydd-Owen-ffotoNant_54b282fb00dd23aa2201cd1b40182ab7.gif)
Disgrifiad Swydd
Mae'r swydd yn cael ei chyllido gan Sefydliad John Ellerman
- Math o Gontract - Parhaol
- Teulu - Cefnogi'r Cwmni
- Oriau - 37 awr yr wythnos
- Cyflog Cychwynnol - £52,500
- Gradd Cyflog -SLT
- Yn atebol i - Y Cyfarwyddwr Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Artistig
- Yn gyfrifol am- Cynhyrchydd Llwybrau, Cynhyrchydd Rhaglen, Gweithwyr Llawrydd fel rhan o Ofal Stiwdio Clwyd
Bydd y gwaith o lunio rhestr fer o'r ceisiadau a’r cyfweliadau ar gyfer y rôl yn cael eu cynnal tra bydd yr hysbyseb yn fyw; bydd yr hysbyseb yn cau ar ôl dod o hyd i'r ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus. Anogir ymgeiswyr felly i gyflwyno ceisiadau cyn gynted â phosibl.
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Cyffredinol
- Aelod allweddol, gweithgar a chefnogol o'r uwch dîm arwain.
- Llais allweddol wrth sicrhau rhaglen gytbwys, ariannol gyfrifol.
- Arwain gyda phositifrwydd ac empathi gan sicrhau Cwmni hapus, llawn cymhelliant.
- Ceisio cyfleoedd i gyfoethogi a datblygu sgiliau aelodau'r Cwmni.
- Goruchwylio pob agwedd ar Stiwdio Clwyd yn Theatr Clwyd i sicrhau ei bod yn cynhyrchu'r canlyniadau dymunol ac yn gyson â'r strategaeth a'r genhadaeth gyffredinol.
- Cefnogi gwaith y Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Artistig.
- Hyrwyddo a chefnogi cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd Theatr Clwyd ym mhob agwedd ar ei waith.
Stiwdio Clwyd
- Datblygu cyfeiriad strategol Stiwdio Clwyd ochr yn ochr â'r Tîm Gweithredol ac arwain y cwmni i ymgorffori a chyflawni'r strategaeth.
- Sicrhau bod Stiwdio Clwyd yn cyflawni ei diben ac yn gwneud hynny o fewn yr egwyddorion arweiniol clir.
- Arwain a datblygu'r tîm i greu llwybrau cadarn ar gyfer ein cymunedau creu theatr a rhaglen wedi'i churadu sy'n cael effaith real ar y rhai sy'n cymryd rhan.
- Canolbwyntio ar les, gan greu seilwaith cefnogi ar gyfer y tîm craidd a gweithwyr llawrydd.
- Meithrin perthnasoedd allweddol gyda chyllidwyr, sefydliadau partner a rhanddeiliaid eraill.
- Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Gweithredol a swyddogaeth datblygu Theatr Clwyd i reoli sicrwydd ariannol Stiwdio Clwyd, ac adrodd yn ôl i’r cyllidwyr presennol.
- Sicrhau bod mynediad a chynhwysiant wrth galon yr holl raglenni, y rheoli ar bobl a’r cynllunio yn Stiwdio Clwyd.
- Cynrychioli Stiwdio Clwyd mewn digwyddiadau a phrosiectau mewnol ac allanol.
- Meithrin cyfathrebu agored a chlir ar bob lefel o'r sefydliad.
- Unrhyw ddyletswyddau neu gyfrifoldebau eraill sy'n berthnasol i'r rôl a'r cylch gorchwyl hwn.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad sylweddol o reoli cyffredinol / cynhyrchu ac arweinyddiaeth adrannol mewn theatr, neu yn llawrydd.
- Gwybodaeth helaeth a phrofiad proffesiynol perthnasol ac eang clir o fewn amgylcheddau theatr cynhyrchu, ar draws theatr y DU.
- Profiad sylweddol o weithio gyda gweithwyr theatr proffesiynol gyda dealltwriaeth gadarn o'r broses creu theatr.
- Profiad o greu rhaglen waith ar gyfer amrywiaeth o anghenion a gofynion.
- Profiad o ddatblygu gwneuthurwyr theatr a / neu gyflwyno cynlluniau datblygu.
- Enw da am gyflawni gwelliannau mesuradwy sylweddol.
- Profiad clir o reoli cyllidebau.
- Aelod da o dîm sy'n ddymunol, yn ddoeth ac yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â phobl ar bob lefel yn fewnol ac yn allanol.
- Ymroddedig a llawn hunangymhelliant gyda sgiliau arwain tîm a rheoli rhagorol.
- Sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau rhagorol.
- Angerdd ac empathi at y celfyddydau, gyda gwybodaeth eang am artistiaid a chwmnïau theatr.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog.
- Sgiliau TGCh da, gan gynnwys gwybodaeth ymarferol am Microsoft Office Word, Excel ac Outlook.
- Sgiliau trefnu ardderchog gyda lefel uchel o sylw i fanylder a'r gallu i reoli prosiectau niferus yn effeithiol ar yr un pryd.
- Dealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant ac ymrwymiad iddynt.
- Brwdfrydedd a hamddenol – i arwain drwy esiampl.
Dymunol
- Gwybodaeth dda am dechnoleg theatr.
- Agored i weithio gyda’r timau datblygu a chodi arian.
- Gwybodaeth dda am dirlun y theatr yng Nghymru
- Dull entrepreneuraidd a llawn hunangymhelliant o weithredu
- Profiad blaenorol o weithio mewn tŷ derbyn neu theatr deithiol.
- Profiad blaenorol o rôl uwch mewn theatr gynhyrchu.
- Cymraeg sgwrsio ac ysgrifenedig.
- Trwydded yrru lawn.