Cydlynydd Profiad
Disgrifiad Swydd

Cefnogi'r Rheolwr Profiad Ymwelwyr i sicrhau bod Theatr Clwyd a Neuadd William Aston yn rhedeg yn esmwyth. Creu amserlen Aelodau Cwmni a gwirfoddolwyr y tîm Profiad rheng flaen gan sicrhau bod pob agwedd ar y gweithredu’n cael eu staffio i lefelau a gyllidebwyd, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r safon uchaf a rhannu gwybodaeth fanwl gywir. Sylwch - mae Cymraeg ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 37 awr y wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
- Cefnogi’r gwasanaeth gweithredol rheng flaen yn Theatr Clwyd a Neuadd William Aston, gan sicrhau safonau rheoli perfformiad trylwyr a thrwy hynny sicrhau’r elw masnachol gorau posib yn unol â thargedau’r cynllun busnes.
- Recriwtio a datblygu’r Tîm Profiad rheng flaen gan sicrhau bod gan holl Aelodau’r Cwmni agwedd hyblyg a chyfeillgar a’u bod yn teimlo’n rhan o’r sefydliad.
- Goruchwylio amserlennu holl Aelodau'r Cwmni Profiad rheng flaen yn y ddau leoliad.
- Rheoli datblygiad a chyfathrebu hunaniaeth unigryw ar gyfer y Rhaglen Gwirfoddolwyr yn Theatr Clwyd a Neuadd William Aston.
- Cynllunio a chyflwyno rhaglen sefydlu a hyfforddi ar draws y theatr ar gyfer yr holl wirfoddolwyr, gan arwain ar eu recriwtio, eu lleoli a'u cadw.
- Rheoli holl ymholiadau'r cyhoedd am wirfoddoli ar e-bost, ffôn a gwefan a thrwy gyfryngau cymdeithasol ac wyneb yn wyneb.
- Cyflenwi yn y Ddesg Groeso i gefnogi'r tîm Profiad i greu amgylchedd croesawgar.
- Monitro'r System Rheoli Adeiladau i sefydlu'r defnydd cywir o awyru, goleuo ac ynni ac i wirio statws systemau tân a diogelwch.
- Gweithredu fel Dirprwy Reolwr Profiad ar rai shifftiau dydd a nos. Yn ystod shifftiau lle mae perfformiad, cysylltu â’r staff cynhyrchu i reoli perfformiadau’r lleoliad. Bod yn gyfrifol am les a diogelwch y gynulleidfa, goruchwylio cyfrif arian, rheoli’r tîm Profiad a chloi’r adeilad.
- Sicrhau bod ymwelwyr ag anableddau a / neu ofynion mynediad yn cael eu croesawu i'n hadeilad hygyrch.
- Gweithio gyda'r Rheolwr Profiad Ymwelwyr ar gydymffurfio â'r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd gan sicrhau ein bod yn lleoliad hygyrch.
- Gweithio gyda'r Rheolwr Digwyddiadau i sicrhau bod digwyddiadau’n rhedeg yn esmwyth.
- Cefnogi'r gwaith o reoli a goruchwylio gweithdrefnau a mesurau rheoli ariannol ar gyfer gwasanaethau gweithredol, gan gynnwys stoc a nwyddau.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n ofynnol gan y Rheolwr Profiad Ymwelwyr.
Y Person
- Sgiliau arwain tîm hyderus a llawn cymhelliant, gyda phrofiad o oruchwylio staff a materion cysylltiedig o ddydd i ddydd.
- Profiad o reoli tîm rheng flaen.
- Profiad o weithio gyda thîm mawr o wirfoddolwyr.
- Profiad clir o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel.
- Y gallu i greu amgylchedd croesawgar ar gyfer ystod amrywiol o ddefnyddwyr yr adeiladau.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
- Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.

Apply for the role, in English / Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen we newydd, lle byddwch yn dod o hyd i’r Disgrifiad Swydd lawn a gallwch gwblhau cais ar-lein i gael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.