Cynorthwy-ydd Cefnogi'r Cwmni (UDA)
Disgrifiad Swydd
Pwrpas y Rôl
Darparu gwasanaeth CP effeithlon ac effeithiol i’r Uwch Dîm Arwain (chwe aelod o’r tîm ar hyn o bryd). Cynorthwyo'r Swyddog Gweithredol i ddarparu cefnogaeth i'r Prif Swyddogion Gweithredol ar y Cyd gyda thasgau gweinyddol yn ôl yr angen.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Disgrifiad Swydd
Teitl y Rôl - Cynorthwy-ydd Cefnogi'r Cwmni (UDA)
Math o Gontract - Parhaol
Teulu - Cefnogi'r Cwmni
Arbenigedd y tîm - Cefnogi'r Cwmni
Oriau - 37 awr yr wythnos
Cyflog cychwynnol - £23,407
Gradd cyflog - OP2
Yn atebol i - Rheolwr Cefnogi'r Cwmni
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Cyffredinol:
- Cynnal rheolaeth ar y dyddiadur a chydlynu cyfarfodydd ac apwyntiadau eraill yn effeithlon ar ran yr uwch dîm arwain, yn ôl yr angen.
- Cynnal systemau a phrosesau effeithiol ar gyfer cefnogi a chyfathrebu gyda'r uwch dîm arwain.
- Darparu cefnogaeth i'r uwch dîm arwain wrth ymateb i geisiadau a'u didoli ar eu rhan.
- Sicrhau bod gan aelodau'r uwch dîm arwain yr holl bapurau angenrheidiol ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw, a bod unrhyw gyfarwyddiadau / fanylion yn cael eu sicrhau cyn y cyfarfodydd.
- Cynorthwyo gydag unrhyw brosiectau, ymchwil neu ddarnau o waith fel sy'n ofynnol gan yr uwch dîm arwain.
- Cynorthwyo i baratoi cyflwyniadau, adroddiadau a dogfennau yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo i drefnu cyfarfodydd tîm arferol, gan gynnwys sefydlu a darparu cefnogaeth mewn cyfarfodydd ar gyfer cyfarfodydd Microsoft Teams.
- Cymryd cofnodion mewn cyfarfodydd yn ôl yr angen.
- Dilyn unrhyw bwyntiau gweithredu sy'n deillio o gyfarfodydd yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo gyda threfnu digwyddiadau gan gynnwys dyddiau cwrdd i ffwrdd a chyfarfodydd eraill yn ôl yr angen.
- Trefnu'r holl drefniadau teithio a llety angenrheidiol ar gyfer yr uwch dîm arwain yn ôl yr angen.
- Cynnal lefel uchel o gyfrinachedd o ran materion sy'n ymwneud â chyflogeion, ymddiriedolwyr a phartneriaid allanol. Ymateb yn gadarnhaol gyda doethineb, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth i bawb mewn perthynas â'r dyletswyddau a gyflawnir.
- Cyflenwi ar gyfer y Swyddog Gweithredol yn ôl yr angen.
- Unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n berthnasol i'r swydd fel y cytunwyd gyda'ch Rheolwr Llinell.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad o waith cynorthwy-ydd personol, gweinyddol ac ysgrifenyddol
- Profiad o ddarparu cefnogaeth i reolwyr neu arweinwyr niferus ar yr un pryd
- Profiad o weithio mewn tîm gweinyddol prysur
- Defnydd ardderchog o raglenni Office fel Word, Excel, PowerPoint
- Profiad o reoli dyddiaduron a chyfarfodydd
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol gyda'r gallu i gyfathrebu ag ystod eang o unigolion
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
- Trefnus ac yn llawn hunangymhelliant; gallu cynllunio a gwneud gwaith ar eich pen eich hun
- Gallu blaenoriaethu baich gwaith amrywiol, cwrdd â therfynau amser tynn a defnyddio eich blaengaredd eich hun
Dymunol
- Cymraeg ysgrifenedig a llafar
- Gwybodaeth dda am ffurfiau celfyddydol heblaw am y theatr, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dawns, cerddoriaeth, celf, ffilm a llenyddiaeth, yng Nghymru a ledled y DU
- Sgiliau llaw-fer a / neu sgiliau cofnodi eraill
- Profiad o drefnu digwyddiadau
- Parodrwydd i weithio ar benwythnosau a gyda'r nos yn achlysurol
- Trwydded yrru lawn