Cynorthwy-ydd Marchnata
Disgrifiad Swydd
Pwrpas y Rôl
Mae'r Cynorthwy-ydd Marchnata yn gweithredu ymgyrchoedd marchnata sy’n cael eu cefnogi gan y rheolwr llinell. Bydd yn canolbwyntio ar ein gwefan ni a system e-bost solus i sicrhau bod y ddau faes yn darparu profiad lefel uchel i’r gynulleidfa. Mae'r rôl yma’n rhan o dîm clos sydd â’i ffocws ar werthiant, gyda phwyslais ar sicrhau’r incwm gorau posib o sioeau drwy weithredu ymgyrchoedd. Mae’n gweithio fel rhan o'r Tîm Marchnata i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd targedau, yn denu cymaint â phosib o gynulleidfa, yn denu ymwelwyr newydd, yn cynnal lefelau uchel o incwm a enillir ac yn cael cydnabyddiaeth brand ardderchog. Mae hefyd yn cefnogi gweithgarwch ehangach ein gwaith ni (gan gynnwys Ymgysylltu Creadigol, Bryn Williams a Cherddoriaeth Theatr Clwyd) i godi proffil y sefydliad.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Disgrifiad Swydd
Teitl y Rôl - Cynorthwy-ydd Marchnata
Math o Gontract - Parhaol
Teulu - Cymdeithasau
Arbenigedd y tîm -Marchnata
Oriau - 37 yr wythnos
Cyflog cychwynnol - £23,407
Gradd cyflog - OP2
Yn atebol i - Rheolwr Marchnata
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
E-bost
- Defnyddio Dotdigital i greu ymgyrchoedd e-bost deinamig a chreadigol wedi'u targedu.
- Edrych ar ffyrdd o gynyddu effaith ein hymgyrchoedd e-bost gan gynnwys drwy ymgyrchoedd awtomatig gyda chefnogaeth y rheolwr llinell.
- Bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf mewn marchnata ar e-bost
- Monitro’r ymgysylltu drwy adrodd dadansoddol
Gwefan
- Sicrhau bod tudalennau sefydlog a digwyddiadau gwefannau Theatr Clwyd a Neuadd William Aston yn fanwl gywir, yn ddeinamig ac yn cael eu sbarduno gan werthiant.
- Edrych ar ffyrdd o gynyddu effaith ein gwefannau
- Bod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf mewn gwefannau
- Monitro’r ymgysylltu drwy adrodd dadansoddol google
Cymunedau
- Gweithio fel eiriolwr ar gyfer gwaith y teulu Cymunedau o fewn y tîm cyfathrebu.
- Mynd ati i chwilio am gyfleoedd i greu cynnwys sy'n gysylltiedig â'r teulu Cymunedau.
- Sicrhau bod tudalennau'r wefan sy'n canolbwyntio ar Gymunedau yn cael eu cynnal.
Allanol
- Gweithio gyda:
o Cwmnïau Sy’n Ymweld, Aelodau’r Cwmni, Pobl Greadigol a Pherfformwyr.
Ariannol
- Cadw at brosesau ariannol perthnasol
- Casglu, lle bo angen, anfonebau am y gwasanaethau sydd wedi’u defnyddio
Cyffredinol
- Gweithredu elfennau o’r ymgyrchoedd Cyfathrebu, dan arweiniad y rheolwr llinell. Gall hyn gynnwys:
o Ysgrifennu testun (e.e. post uniongyrchol, e-bost, gwefan, cyfryngau cymdeithasol, datganiadau i’r wasg, dogfennau briffio)
o Print (e.e. lefelau monitro, cynyddu dosbarthiad, adnewyddu posteri)
o Casglu a chreu asedau marchnata (e.e. lluniau, adolygiadau, podledu, fideo, gwybodaeth rhaglen)
o Dosbarthu (e.e. taflen sinema i lyfrgelloedd, taflenni yn yr allanfa)
o Cynnal a Chadw Bas Data (e.e. print, lleoliadau dosbarthu)
o Gwefan (e.e. y gallu i ychwanegu cynnwys at y wefan)
o Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus (e.e. mewnbynnu rhestrau’r wasg, cyfarfod a chyfarch newyddiadurwyr, gofalu am actorion mewn cyfweliadau)
o Cyfryngau Cymdeithasol (e.e. y gallu i ysgrifennu a phostio cynnwys cyfryngau cymdeithasol, ymateb i ymholiadau) - Mynychu digwyddiadau i siarad â'r cyhoedd am waith y theatr a dosbarthu deunyddiau marchnata.
- Sicrhau dealltwriaeth barhaus o frandiau, segmentau a Strategaeth Cyfathrebu a Chyfrannu Theatr Clwyd a Neuadd William Aston.
Arall
- Bod yn ymwybodol o dueddiadau perthnasol y wasg, marchnata a chreu cynnwys.
- Mynychu cynyrchiadau, digwyddiadau a gweithgareddau eraill Theatr Clwyd.
- Cynrychioli a hyrwyddo'r sefydliad yn gadarnhaol ar bob lefel
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn unol â chais rhesymol y Cyfarwyddwr Cynulleidfaoedd a Dirnadaeth
- Gweithio yn y swyddfa docynnau mewn argyfwng (bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu)
- Cefnogi cydweithwyr a chynnig croeso cynnes i unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â'r sefydliad.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad o farchnata sylfaenol neu wybodaeth am y maes.
- Profiad o ddefnyddio gwefannau, systemau e-bost (e.e. Mailchimp), cyfryngau cymdeithasol (yn enwedig Meta), Word, Excel i lefel uchel.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog
- Yn gweithio'n gyflym ac yn amsugno adborth yn gyflym ac yn diwygio yn unol â hynny
- Y gallu i ddefnyddio meddwl hyblyg a thu allan i’r bocs, rheoli tasgau niferus a gweithio dan bwysau
- Ymrwymiad i ragoriaeth ac ymdrech ddi-baid i fod y gorau.
- Defnydd ardderchog o iaith – dawn ysgrifennu a'r gallu i ysgrifennu mewn amrywiaeth o gyd-destunau a naws.
Dymunol
- Diddordeb ym myd y theatr a'r celfyddydau
- Sgiliau rhifedd rhagorol
- Gwerthfawrogi gwaith Theatr Clwyd a'r gallu i siarad yn argyhoeddiadol amdano.
- Gwybodaeth weithredol dda am systemau’r swyddfa docynnau
- Cymraeg llafar ac ysgrifenedig
- Trwydded yrru lawn