Cyswllt Creadigol
Disgrifiad Swydd
Pwrpas y Rôl
Datblygu ac arwain mentrau Ymgysylltu Creadigol difyr ac o ansawdd uchel. Ysgwyddo rôl greadigol ac ymarferol wrth ddarparu prosiectau, gweithdai a digwyddiadau Ymgysylltu Creadigol. Bod yn eiriolwr dros y gwaith rydym yn ei wneud gyda phobl ifanc, y gymuned ehangach a'r celfyddydau ac iechyd, gan fanteisio i’r eithaf ar gydweithrediadau a phrosiectau a chyfrannu at y weledigaeth gyffredinol sy'n adeiladu ar ein henw da am ragoriaeth, dysgu creadigol, ac ymgysylltu ystyrlon.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Disgrifiad Swydd
Teitl y Rôl - Cyswllt Creadigol
Math o Gontract - Cyfnod Penodol, tan fis Gorffennaf 2025
Teulu - Cymdeithasau
Arbenigedd y tîm - Ymgysylltu Creadigol
Oriau - Hyd at 30 awr yr wythnos
Cyflog cychwynnol - £26,326
Gradd cyflog - OP4
Yn atebol i - Cyfarwyddwr Cymunedau, Lles ac Addysg
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Cyffredinol:
- Cyflwyno gweithdai, prosiectau cymunedol a / neu brosiectau ysgolion yn ôl yr angen.
- Cydweithio â Chysylltiadau a gweithwyr llawrydd eraill wrth greu cynyrchiadau a digwyddiadau ymgysylltu creadigol
- Cyflwyno cyfleoedd i ysgolion, teuluoedd, aelodau hŷn ein cymuned a phrosiectau ieuenctid yn ôl yr angen.
- Annog a meithrin cyfranogwyr o bob oedran, gan ffurfio perthynas gynnes ond proffesiynol â nhw.
- Gweithredu fel wyneb cyhoeddus rhaglen Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd i athrawon, rhieni, grwpiau cymunedol ac artistiaid ochr yn ochr â'r Cysylltiadau Engagement Creadigol eraill.
- Cynorthwyo'r tîm ehangach i gynhyrchu adnoddau digidol, gan ddarparu gwybodaeth am gynnwys gweithdai yn ôl yr angen.
- Gweithredu yn unol â pholisïau Theatr Clwyd wrth weithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
- O dan gyfarwyddyd y Cynhyrchydd, ysgwyddo cyfrifoldeb am ymrwymo gwariant o fewn terfynau pendant.
Arall
- Cynrychioli a hyrwyddo'r sefydliad yn gadarnhaol ar bob lefel, yn enwedig i athrawon a rhieni / gwarcheidwaid.
- Creu cysylltiadau ym myd y celfyddydau fel y brif ffynhonnell wybodaeth yn y maes gwaith hwn
- Ffurfio perthnasoedd â'r gymuned
- Cefnogi'r Cyfarwyddwr Cymunedau, Lles ac Addysg i gyrraedd cymaint o rannau o'r gymuned â phosibl drwy'r celfyddydau.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad o gyflwyno gweithdai i amrywiaeth eang o oedrannau a chefndiroedd.
- Profiad sylweddol o weithio gyda'r gymuned.
- Presenoldeb egnïol ac ysbrydoledig, gyda'r gallu i arwain ac ysgogi pobl o bob oedran nad ydynt efallai'n hyderus neu'n ymgysylltu.
- Sgiliau hwyluso, gyda gallu clir i ddefnyddio dulliau gweithio rhesymegol a chreadigol sy’n seiliedig ar ganlyniadau.
- Hynod brofiadol a gwybodus mewn arfer arbenigwr celfyddyd.
- Gwybodaeth am y gymuned sy'n lleol i Theatr Clwyd neu barodrwydd i ddysgu amdani.
- Gwybodaeth a'r gallu i ddelio'n sensitif â materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth a mynediad.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gan gynnwys y gallu i uniaethu ag amrywiaeth eang o bobl.
- Dyfeisgarwch a meddwl yn gyflym.
- Sgiliau rheoli amser cadarn.
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm bach.
- Archwiliad DBS.
- Ymrwymiad i ragoriaeth artistig.
Dymunol
- Gwybodaeth am y theatr a ffurfiau celfyddydol eraill yn y DU yn gyffredinol ac yng Nghymru yn benodol.
- Rhugl yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
- Gwybodaeth weithredol am ysgolion lleol.
- Trwydded yrru lawn.