Cerddor Cysylltiol- Gitâr
Disgrifiad Swydd
Rydyn ni’n chwilio am athro gitâr ysbrydoledig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm o Gysylltiadau Cerddoriaeth i gyflwyno gwersi, ensembles a gweithdai o ansawdd uchel ledled Sir y Fflint. Bydd mwyafrif yr addysgu mewn ysgolion, ond mae gwersi hefyd yn digwydd y tu allan i amser ysgol ac efallai y bydd cyfle i fod yn rhan o'n timau sy’n arwain grwpiau a gweithdai untro.
Pwrpas y Rôl:
Bydd Cyswllt y Gwasanaeth Cerddoriaeth yn gyfrifol am gynllunio a chyflwyno addysgu offerynnol / lleisiol unigol a grŵp o ansawdd uchel, sesiynau gweithdai a rhaglenni ensemble yn ôl y cyfarwyddyd. Bydd hefyd yn chwarae rhan greadigol ac ymarferol wrth gyflwyno perfformiadau, gweithdai a digwyddiadau. Fel eiriolwr ar ran y gwaith rydyn ni’n ei wneud gyda phobl ifanc a’r gymuned ehangach, bydd yn cyfrannu at y weledigaeth gyffredinol sy’n adeiladu ar ein henw da am ddysgu creadigol o ansawdd uchel ac ymgysylltu ystyrlon.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Theatr Clwyd Music
Mae Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn darparu cyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion gymryd rhan mewn gweithgareddau cerddorol ac yn cefnogi llwybrau cynnydd hygyrch drwy wersi, grwpiau ac ensembles, perfformiadau, gweithdai a digwyddiadau. Mae gennym ni dîm dawnus o Gysylltiadau Cerddoriaeth gydag ystod o arbenigeddau cerddorol sy’n gweithio gydag ysgolion a chymunedau yn Sir y Fflint ac ar draws y rhanbarth. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr o fewn teuluoedd Theatr Clwyd, yn enwedig y Tîm Ymgysylltu Creadigol, ac rydyn ni hefyd yn datblygu partneriaethau strategol gyda sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio gyda mwy na 3000 o blant, pobl ifanc ac oedolion bob wythnos, gan gynnwys 1900 o ddisgyblion blwyddyn 3 gyda'n rhaglen addysgu dosbarth cyfan Profiadau Cyntaf. Ochr yn ochr ag addysgu ym mhob un o ysgolion Sir y Fflint, rydyn ni hefyd yn cynnig gwersi y tu allan i’r ysgol drwy ein rhaglen Llwybrau Cerddoriaeth ac yn rhedeg 9 ensemble gan gynnwys corau, bandiau chwyth a grŵp pop a roc. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ac yn ehangach, gyda’n cyrsiau Ensembles Tair Sir yn ymgysylltu â mwy na 120 o offerynwyr a chantorion ifanc o bob rhan o Ogledd Ddwyrain Cymru.
Disgrifiad Swydd
Teitl y Rôl - Cerddor Cysylltiol
Math o Gontract - Parhaol
Teulu - Cerddoriaeth
Arbenigedd y tîm - Cerddoriaeth
Oriau - O leiaf 3 diwrnod yr wythnos
Cyflog cychwynnol - £26,940 (pro-rata) y flwyddyn
Gradd cyflog - M6-18
Yn atebol i - Arweinydd Tîm Cerddorion Cysylltiol
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Cyfrifoldebau Allweddol
- Ysbrydoli eich myfyrwyr gyda hoffter o ddysgu a chreu cerddoriaeth.
- Addysgu ystod o sgiliau cerddoriaeth cynyddol gan alluogi myfyrwyr i ddysgu, mewn ffordd bleserus, chwarae offeryn, canu a / neu ddefnyddio technoleg cerddoriaeth.
- Cyflwyno hyfforddiant cerddoriaeth o ansawdd uchel i ystod eang o fyfyrwyr ar draws ystod o leoliadau:
o meithrin amgylchedd dysgu cefnogol a chynhwysol i bob disgybl.
o defnyddio repertoire / deunydd cerddorol sy'n cynrychioli gwahanol arddulliau a diwylliannau.
o archwilio a defnyddio ystod o strategaethau addysgu a dysgu.
o cynllunio gwersi a rhaglenni dysgu.
o monitro, asesu ac adrodd ar gynnydd cerddorol, personol a chymdeithasol.
o cynnwys myfyrwyr wrth gynllunio sut maent eisiau dysgu a chreu cerddoriaeth.
o datblygu adnoddau ac addasu arfer i weddu i anghenion a diddordebau pob dysgwr.
o creu perthnasoedd cadarnhaol ac ysbrydoledig gyda myfyrwyr
o cyfeirio a monitro'r niferoedd sy'n manteisio ar gyfleoedd cynnydd
- Arwain a chyfarwyddo ensembles / grwpiau cerddorol yn ôl y gofyn, gan baratoi deunydd addas, a chefnogi cyfleoedd perfformio neu recordio.
- Arwain gweithdai a digwyddiadau untro yn ôl yr angen, gan gydweithio â chydweithwyr o TC a sefydliadau partner
- Gweithio fel rhan o dîm a meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda holl staff yr ysgolion a'r lleoliadau, y Cysylltiadau Cerddoriaeth eraill, y rheolwyr, aelodau cwmni Theatr Clwyd a’r uwch arweinwyr.
- Cyfathrebu â gweithwyr proffesiynol eraill am anghenion dysgu disgyblion, i nodi a chael gwared ar rwystrau i gynnydd a lles (er enghraifft, siarad â CAAA ysgol).
- Adlewyrchu’n rheolaidd ar a datblygu eich arfer proffesiynol eich hun; ymgymryd ag ystod o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus, hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio.
- Paratoi disgyblion ar gyfer arholiadau neu achrediadau anffurfiol neu ffurfiol.
- Cadw cofrestri, nodiadau gwersi ac ymgymryd â thasgau gweinyddol eraill fel sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y gweithgareddau'n rhedeg yn esmwyth, gan gynnwys darparu data disgyblion, cyfathrebu ag ysgolion a rhieni a chefnogi gwerthusiad trefniadaethol cyffredinol.
- Cefnogi defnydd effeithlon o stoc ac adnoddau offerynnol, gan gynnwys cadw cofnodion manwl gywir.
- Ymgysylltu’n rhagweithiol â phrosesau a ffyrdd o weithio Cerddoriaeth Theatr Clwyd, gan gynnwys defnyddio systemau a meddalwedd ar-lein ar gyfer cadw cofnodion a chyfathrebu, a mynychu cyfarfodydd, hyfforddiant a chyfarfodydd cwmni ehangach yn ôl yr angen.
- Cadw at holl bolisïau Cerddoriaeth Theatr Clwyd a Theatr Clwyd gan gynnwys Iechyd a Diogelwch a Diogelu; hyrwyddo a diogelu lles plant a phobl ifanc, gyda chyfrifoldeb gorfodol i adrodd am unrhyw bryderon a nodir yn unol â pholisi Theatr Clwyd.
- Cefnogi nodau strategol Cerddoriaeth Theatr Clwyd, eiriol dros bŵer cerddoriaeth ac addysg gelfyddydol a gwaith Theatr Clwyd, a chefnogi recriwtio myfyrwyr parhaus ac ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill sy'n ofynnol gan y Cyfarwyddwr Cerddoriaeth
Manyleb y Person
Adran 1: Gwybodaeth a Phrofiad
Hanfodol
- Profiad o ddysgu, creu a pherfformio cerddoriaeth a / neu hwyluso addysg cerddoriaeth
- Dealltwriaeth o fanteision gwahanol ffyrdd o ddysgu cerddoriaet
- Deall y rhwystrau y gall pobl ifanc eu hwynebu wrth geisio creu cerddoriaeth
- Deall sut mae dysgu cerddoriaeth yn cefnogi datblygiad personol a chymdeithasol.
- Dealltwriaeth o'r hyn sy'n ysgogi myfyrwyr, ac yn enwedig pobl ifanc, i ddysgu.
- Profiad o ymateb i her, a gwybodaeth am bryd a sut i ofyn am gymorth.
- Diddordeb mewn cyflwyno profiad dysgu myfyriwr-ganolog sy'n gwerthfawrogi ac yn ymateb i anghenion a diddordebau unigolion, o fewn a thu hwnt i'ch arbenigedd cerddorol.
Dymunol
- Profiad o helpu eraill i ddatblygu'n gerddorol, yn bersonol neu'n gymdeithasol.
- Profiad o addysgu neu hwyluso dysgu / datblygiad mewn amrywiaeth o leoliadau, a all gynnwys lleoliadau ysgol, ieuenctid neu gymunedol.
- Gwybodaeth am sut i wahaniaethu addysgu ar gyfer diddordebau, anghenion ac arddulliau dysgu ystod eang o bobl.
- Profiad o ddatblygu ac addasu adnoddau i ymateb i ddiddordebau ac anghenion dysgwyr.
- Ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o werth addysgol ystod amrywiol o genres ac arferion cerddorol.
Adran 2: Sgiliau a Chymwyseddau
Hanfodol
- Lefel uchel o hyfedredd yn eich maes arbenigedd, e.e. offeryn, lleisiol, technoleg cerddoriaeth
- Y gallu i gynllunio a chyflwyno profiadau dysgu o ansawdd uchel i ddenu a datblygu ystod eang o fyfyrwyr, yn gerddorol, yn bersonol ac yn gymdeithasol.
- Y gallu i greu amgylchedd dysgu diogel, a chyfathrebu'n effeithiol er mwyn meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda myfyrwyr a chydweithwyr.
- Y gallu i berthnasu a gwrando ar fyfyrwyr i gynllunio gweithgareddau sy'n ymateb i'w diddordebau a'u hanghenion.
- Strategaethau ar gyfer rheoli dysgu mewn grwpiau; creu dysgu sy'n cynnig lefel o her ac annibyniaeth sy'n briodol i oedran, gallu, capasiti a chyd-destun.
- Trwydded yrru lawn, ynghyd â defnydd o gar ac yswiriant sy'n briodol i ddefnyddio'r car at ddibenion busnes yn ogystal â theithio i ac o'r gwaith.
- Agwedd hyblyg at waith a pharodrwydd i weithio gyda'r nos ac ar benwythnosau ar sail ad hoc, pan fo angen, i ddiwallu anghenion y sefydliad
- Mae'r swydd yma’n gofyn am archwiliad DBS uwch i'w adnewyddu bob tair blynedd gan fod Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn gweithio'n agos gyda phobl ifanc ac ysgolion. Efallai y bydd angen gwiriadau a mesurau diogelu priodol eraill hefyd.
Dymunol
- Y gallu i adlewyrchu ar ymarfer addysgu, ei fireinio a'i ddatblygu.
- Cymraeg llafar ac ysgrifenedig.
- Y gallu i weithio'n hyblyg, yn ymatebol ac yn ddigynnwrf dan bwysau.
- Dealltwriaeth o sut gall cerddoriaeth fod o fudd i'r plentyn / cymuned gyfan.
- Y gallu i annog dysgu annibynnol ar draws amrywiaeth o genres.