Dirprwy Reolwr Gweithdy Adeiladu
Disgrifiad Swydd
Pwrpas y Rôl
Gweithio fel rhan o dîm y Gweithdy Adeiladu Golygfeydd yn yr Adran Gynhyrchu, gydag arbenigedd mewn adeiladu setiau, gan ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf bosib i gynyrchiadau Theatr Clwyd. Gan weithio'n bennaf yn ardal y Gweithdy, bydd ef / hi yn gweithio ar adegau ochr yn ochr â chydweithwyr mewn ardaloedd eraill yn yr Adran Gynhyrchu.
Amdanom ni
Mae Theatr Clwyd yn hwb diwylliannol sy'n cynhyrchu theatr o safon byd ym mryniau Gogledd Cymru. Ers 1976 rydym wedi bod yn gwasanaethu ein cymunedau ac yn darparu profiadau theatr a chelfyddydol o'r safon uchaf i bobl Gogledd Cymru a thu hwnt.
Mae ein cenhadaeth yn gynyddol bwysig i ni ym mhopeth a wnawn.
Gwneud y byd yn lle hapusach, un ennyd ar y tro.
Rydym yn ddigon ffodus i fod yn un o’r ychydig iawn o theatrau yn y DU sy’n adeiladu setiau, gwneud gwisgoedd, paentio golygfeydd a chreu props yn fewnol. Mae'r sgiliau creu theatr hanfodol yma’n sicrhau ein bod yn gallu gwthio ffiniau theatrig i greu sioeau trawiadol o hedyn yn nychymyg yr awdur. Ers 2018, mae hyn wedi cael ei gydnabod gan y diwydiant theatr gyda gwobrau UK Theatre, The Stage ac Olivier.
Mae datblygu crëwyr theatr yn ein cymuned yn allweddol i gynnal sector diwylliannol Cymru a’r DU. Mae gennym ofod ar gyfer awduron a chwmnïau sy'n plethu â phrentisiaethau technegol a chyfarwyddwyr dan hyfforddiant i greu adeilad sy'n cefnogi pobl greadigol i ddatblygu rhagoriaeth artistig.
Rydym yn defnyddio ein sgiliau fel sail i drawsnewid cymdeithasol yn ein cymunedau. Rydym yn mynd i'r afael yn greadigol â heriau cymdeithasol ac addysgol fel cyfiawnder ieuenctid gan hefyd bontio rhaniadau cymdeithasol ac economaidd. Rydym yn cydnabod yr effaith uniongyrchol a'r manteision hirdymor y gall y celfyddydau eu darparu i gynorthwyo gyda lles seicolegol a chorfforol. Rydym yn cydweithio â bwrdd iechyd mwyaf y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau cymdeithasol lleol i ymateb i'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol drwy gefnogi ein cymunedau.
Mae gennym drosiant blynyddol diweddar o tua £7m ac rydym yn cael ein cyllido gan gyfuniad o Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir y Fflint, gwerthiant tocynnau’r swyddfa docynnau, incwm masnachol a chodi arian gan unigolion, ymddiriedolaethau a mudiadau a nawdd corfforaethol.
Disgrifiad Swydd
Math o Gontract - Parhaol
Teulu - Creu Theatr
Arbenigedd y tîm -Gweithdy Adeiladu
Oriau - 37 yr wythnos
Cyflog cychwynnol - £26,326
Gradd cyflog - OP4
Yn atebol i - Rheolwr Gweithdai
Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
- Goruchwylio Cynorthwywyr Gweithdy, staff achlysurol a llawrydd a chydlynu'r gweithdy, gan roi gwybod i Reolwr y Gweithdy ynghylch cynnydd y gwaith.
- Ar y cyd â Rheolwr y Gweithdy, cynllunio a rheoli llif gwaith yr adran ac arwain y tîm yn ystod gwaith adeiladu, ffitio, symud allan, tynnu setiau i lawr yn ôl yr angen, gan sicrhau amgylchedd gwaith diogel a chydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â gweithle diwydiannol (gan gynnwys PUWER, COSHH, LOLER).
- Dirprwyo ar ran a rheoli'r adran yn absenoldeb Rheolwr y Gweithdy.
- Ar y cyd â Rheolwr y Gweithdy, bod yn gyfrifol am amgylchedd gwaith glân, taclus a threfnus ac ysgwyddo cyfrifoldeb arbennig am gadw tŷ yn y gweithdy.
- Archebu deunyddiau a gwasanaethau ac yn absenoldeb Rheolwr y Gweithdy, cysylltu â'r Rheolwr Cynhyrchu a'r Pennaeth Cynhyrchu ar gyllidebau cynhyrchu ac adrannau.
- O dan reolaeth Rheolwr y Gweithdy, bod yn gyfrifol am adeiladu setiau, props neu unrhyw eitem gynhyrchu yn ôl y gofyn, i'r safon uchaf bosib ac o fewn yr amser a'r gyllideb a neilltuir.
- Ochr yn ochr â Rheolwr y Gweithdy, rhoi'r holl wybodaeth ymarferol angenrheidiol i gynllunwyr.
- Cynorthwyo yn ystod wythnosau ffitio a chynhyrchu i sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth.
- Gwneud gwaith ymarferol mewn perthynas â symud i mewn, gosod, tynnu’r set i lawr a symud allan, gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio golygfeydd, props, offer rigio a chodi.
- Goruchwylio staff achlysurol yn ôl yr angen.
- Gweithio gyda Rheolwr y Gweithdy i sicrhau hyfforddiant a monitro perfformiad Cynorthwywyr y Gweithdy a staff achlysurol a llawrydd.
- Dehongli cynlluniau a dyluniadau paratoi a darluniau gwaith, gan ddefnyddio CAD a rhaglenni eraill.
- Canfod ac archebu stoc ac eitemau traul. Sicrhau bod Rheolwr y Gweithdy yn ymwybodol os oes angen llogi neu brynu unrhyw offer arbenigol.
- Gweithio o fewn cyllidebau penodol.
- Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
- Cysylltu â'r Artist Golygfeydd i sicrhau bod yr adran yn gweithredu'n effeithiol ac yn effeithlon drwy gydol y broses adeiladu, sy'n cynnwys y gwaith adeiladu a golygfaol.
- Mynychu cyfarfodydd yn ôl yr angen a chynrychioli’r adran yn absenoldeb Rheolwr y Gweithdy.
Iechyd a Diogelwch
- Sicrhau bod yr holl ofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu bodloni bob amser wrth weithio.
- Mynychu hyfforddiant yn ôl yr angen a chynnal ymwybyddiaeth o reoliadau Iechyd a Diogelwch sy'n benodol i'r lleoedd, y peiriannau a’r offer a ddefnyddir.
- Sicrhau bod yr holl offer arbenigol yn cael ei gau i lawr yn gywir ar ddiwedd pob diwrnod gwaith.
- Sicrhau bod yr holl beryglon posib yn cael eu gwneud yn ddiogel cyn gynted â sy'n ymarferol bosibl.
- Cynhyrchu asesiadau risg a datganiadau dull yn ôl yr angen.
Arall
- Sicrhau bod yr holl offer yn cael ei storio'n ddiogel a'i fod yn hygyrch i ddefnyddwyr awdurdodedig.
- Ochr yn ochr â Rheolwr y Gweithdy, sicrhau rhestr o'r holl offer a'r deunyddiau sy'n cael eu cadw a'u defnyddio
- Darparu unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol yn rhesymol gan y Rheolwr Gweithdy, y Rheolwr Cynhyrchu neu'r Cyfarwyddwr Cynhyrchu.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad ymarferol perthnasol yn gweithio ym maes adeiladu, gwaith coed a / neu waith metel, yn ddelfrydol mewn amgylchedd theatr.
- Profiad clir o oruchwylio, arwain a chymell timau.
- Profiad cadarn, clir mewn adeiladu a gwaith coed.
- Profiad cadarn, clir mewn weldio a gwaith metel.
- Gallu defnyddio ystod eang o offer a pheiriannau gweithdy yn ddiogel ac yn hyderus.
- Gallu defnyddio ystod eang o offer pŵer cludadwy ac offer llaw yn ddiogel ac yn hyderus.
- Gwybodaeth weithredol am ddulliau rigio a defnyddio offer codi yn ddiogel.
- Profiad o sefydlu a rigio golygfeydd a systemau decio llwyfan.
- Profiad o greu a dehongli cynlluniau a darluniau adeiladu,
a’r gallu clir i baratoi cynlluniau a darluniau gwaith, gyda gwybodaeth am CAD a rhaglenni eraill. - Sgiliau rhyngbersonol rhagorol, gyda'r gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gyson â holl ddefnyddwyr gofod y theatr a'r digwyddiad, yn enwedig defnyddwyr annhechnegol.
- Dull trefnus o weithio, gydag enw da clir am gadw at derfynau amser a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
- Profiad o weithredu gofynion Iechyd a Diogelwch ac asesiadau risg.
- Hyder i weithio'n annibynnol, ond hefyd parodrwydd i gydweithio ar draws llawer o adrannau.
- Gallu gweithio oriau hyblyg ac anghymdeithasol gan gynnwys gyda'r nos a rhai penwythnosau.
- Trwydded yrru lân, lawn.
Dymunol
- Profiad a gwybodaeth am gynhyrchu theatr prif ffrwd yn y DU.
- Gwybodaeth weithredol am ddulliau rigio a defnyddio offer codi yn ddiogel.
- Profiad o sefydlu a rigio golygfeydd a systemau decio llwyfan.
- Tystysgrif tryc fforch godi gyfredol.
- Hyfforddiant mewn trin maniwal, defnyddio ystolion yn ddiogel a gweithio ar uchder.
- Tystysgrif cymorth cyntaf gyfredol.
- Cymraeg ysgrifenedig a llafar.