Goruchwylydd Cadw Tŷ
Disgrifiad Swydd

Fel Goruchwylydd Cadw Tŷ byddwch yn gweithio gyda thîm ac yn ei arwain i gwblhau amrywiaeth o dasgau a dyletswyddau glanhau rheolaidd ac untro yn unol â chyfarwyddyd y Cydlynydd Cyfleusterau.
Math o Gontract: Parhaol
Oriau: 2 x 20 awr yr wythnos
Y Rôl
Cyfrifoldebau allweddol
Goruchwyliaeth
- Hyfforddi cynorthwywyr cadw tŷ ar gyfer cwblhau tasgau glanhau a chynnal a chadw
- Goruchwylio ac arwain cynorthwywyr cadw tŷ ar shifft
- Gwirio glendid ystafelloedd ac ardaloedd cyffredin, gan gynnwys y grisiau
- Cysylltu â'r Cydlynydd Profiad pan roddir gwybod am absenoldebau, i gefnogi ailamserlennu
- Sefydlu ac addysgu cynorthwywyr cadw tŷ am lanweithdra, taclusrwydd a safonau hylendid
- Cymell y cynorthwywyr cadw tŷ a datrys unrhyw broblemau sy'n codi yn y swydd
- Ymateb i adborth gan westeion a cheisiadau arbennig
Cyffredinol:
- Arwain y Cynorthwywyr Cadw Tŷ wrth gwblhau dyletswyddau Cadw Tŷ a hefyd arwain drwy esiampl drwy gwblhau'r dyletswyddau eich hun
- Gwagio biniau gwastraff ac ailgylchu neu gynwysyddion tebyg, gan gludo deunydd gwastraff i fannau casglu penodol
- Ysgubo lloriau gyda brwshys neu fopiau rheoli llwch
- Mopio lloriau gyda mopiau gwlyb neu laith
- Hwfro a glanhau carpedi a rygiau
- Defnyddio peiriannau sgwrio / sgleinio electronig i sgwrio, sgleinio, chwistrellu a glanhau lloriau
- Tynnu llwch, sychu, golchi neu sgleinio dodrefn, silffoedd, siliau ffenestri ac arwynebau allanol cypyrddau, rheiddiaduron, silffoedd a ffitiadau
- Ailgyflenwi eitemau traul (sebon, papur toiled, tywelion papur) os oes angen
- Glanhau toiledau, iwrinals, basnau dwylo a sinciau
- Defnyddio sylweddau cemegol yn ôl yr angen wrth lanhau neu mewn gweithdrefnau cynnal a chadw, gan ddilyn y canllawiau ar gyfer eu defnyddio
Gweinyddu:
- Cadw llygad ar lefelau stoc y cynhyrchion glanhau ac archebu yn unol â hynny a sicrhau eu bod yn cael eu storio’n ddiogel.
- Cwblhau tasgau gweinyddol arferol sy’n ofynnol e.e. gwirio tasgau glanhau ar daflenni manyleb glanhau dyddiol a gwirio bod y Cynorthwywyr Cadw Tŷ wedi eu cwblhau.
Y Person
- Profiad o arwain tîm
- Gwybodaeth am ddyletswyddau cadw tŷ cyffredinol
- Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ac archebu stoc gan gyflenwyr allanol
- Y gallu i ddilyn cyfarwyddiadau a chwblhau tasgau wedi’u dirprwyo yn gywir ac yn effeithiol ac o fewn terfynau amser penodol.
- Parodrwydd i weithio oriau hyblyg, gan gynnwys gyda'r nosau, penwythnosau a gwyliau
- Prydlon a dibynadwy
- Y gallu i weithio ar eich pen eich hun ac fel aelod o dîm i gyrraedd safonau penodol
- Bod yn hyblyg i ofynion y swydd fel maen nhw’n newid
- Ymfalchio mewn gwneud y swydd yn dda.

Gwnewch gais am y rôl
SYLWCH: Trwy glicio ar y ddolen hon, byddwch yn cael eich ailgyfeirio’n awtomatig i dudalen wê newydd, lle cewch uwchlwytho eich CV er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.